Cam yn nes at ailddatblygu safle hen ysbyty iechyd meddwl Dinbych
Cam yn nes at ailddatblygu safle hen ysbyty iechyd meddwl Dinbych
Ar un adeg roedd safle hen Ysbyty Iechyd Meddwl Dinbych yn rhan bwysig o dirlun y dre.
Erbyn hyn mae'r adeilad mewn cyflwr truenus.
Ond heddiw, ar ol cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru mae'r cynlluniau i adfywio'r safle gam yn nes at eu gwireddu.
Mae'n hen amser.
Mae'r lle yn llawn o hanes.
Roedd Mam, Nain, pawb yn gweithio yne.
Bydd y buddsoddiad yma yn cefnogi'r cwmni i ddatblygu'r safle ac yn rhoi cyfleon gwaith i'r ardal sy'n hynod o bwysig.
Yn y pen draw, bydd o'n dod a tai sydd eu hangen yn yr ardal hefyd.
Mae'r prosiect yn rhan o raglen Twf Gogledd Cymru sy'n rhoi cyfleoedd ac yn mynd i'r afael a heriau sy'n gysylltiedig a safleoedd datblygu ar draws y gogledd.
O ran economi Dinbych, dw i'n meddwl bod o'n hwb enfawr.
Mae'r stryd fawr yn Dinbych, Rhuthun, lle bynnag, yn stryglo.
'Den ni angen mwy o bobl yn ein trefi i helpu'r economi yn y pen draw.
Cafodd yr adeilad tu allan i dref Dinbych ei drawsnewid i fod yn ysbyty rhwng 1844 ac 1848 ar gyfer y rheiny oedd yn byw efo problemau iechyd meddwl.
Yn 1860 cafodd y safle ei wneud yn fwy ac erbyn 1956 roedd 'na le i dros fil pum cant o gleifion.
Gyda datblygiad cyffuriau mwy effeithiol a'r drefn o drin pobl yn y gymuned cyhoeddodd yr hen Awdurdod Iechyd Clwyd ym 1987 bod y safle am gau.
Mi adawodd y claf olaf yn 1995.
Ers hynny mae'r adeilad wedi bod yn wag ac er gwaetha rhybuddion i bobl gadw draw o'r safle bu sawl achos o dresbasu a fandaliaeth dros y blynyddoedd.
Ers iddo gau mae'r adeilad wedi dirywio yn sylweddol ac er gwaethaf sawl cynllun adfywio does dim wedi dwyn ffrwyth hyd yma.
Mae'r cynllun gwerth £107 miliwn i ailddatblygu y safle 53 erw yma yn cynnwys adfer yr adeilad, adeiladu cartrefi a hefyd sefydlu mannau masnachol, gan gynnwys mannau gwyrdd, a'r gobaith yw y bydd y safle yn dod yn galon i'r gymuned unwaith eto.
Ond cymysg oedd y farn ar strydoedd Dinbych.
Sa'n neis cael rhywbeth yne, chydig o dai efo siopau hwyrach?
Wbath yn cael digwydd i'r adeilad, ond tai?
Lle mae'r bobl yma'n mynd i'r ysgol?
Gynnan nhw blant?
Lle maen nhw'n mynd i GPs a dentists a pethau ffordd 'ne?
Fydd yna'm byd yn dre 'ma iddyn nhw.
Fydd o'n llawn.
Mae 'ne lot o blant yn mynd i ddod yne.
Ysgolion, meddygfeydd. Popeth felly.
Os 'den nhw'n gwneud hynny, gret.
Ond gwnan nhw ydy'r cwestiwn.
'Swn i 'di hoffi amgueddfa i gael gweld beth oedd yn digwydd yne y blynyddoedd a fu.
Mae'r broses yn mynd yn ei blaen rwan er mwyn sicrhau'r caniatad cynllunio sydd ei angen er mwyn i'r gwaith ddechrau i ddod ag ail fywyd i'r safle adnabyddus yma ar gyrion tref Dinbych.