Newyddion S4C

Network Rail yn rhybuddio wedi i fam a phlentyn groesi o flaen trên ym Mhrestatyn

16/08/2024

Network Rail yn rhybuddio wedi i fam a phlentyn groesi o flaen trên ym Mhrestatyn

Mae Network Rail wedi cyhoeddi rhybudd i gerddwyr ar ôl i fam a'i phlentyn gerdded ar groesfan rheilffordd eiliadau cyn i drên yrru heibio.

Roedd lluniau cylch cyfyng yn dangos y plentyn ifanc a'i fam yn cerdded ar groesfan rheilffordd Sandy Lane ym Mhrestatyn.

Dywedodd Bethan Lloyd, rheolwr croesfan rheilffyrdd Network Rail dros ogledd Cymru fod ymateb y gyrrwr trên wedi atal "digwyddiad allai fod yn ddifrifol iawn."

"Mae hwn yn fideo ysgytwol a gafodd ei gymryd o'n camerâu cylch cyfyng.

"Mae'n tanlinellu'r pwysigrwydd o gymryd gofal a bod yn wyliadwrus wrth ddefnyddio croesfan.

“Yn y clip fideo, fe wnaeth gyrrwr wyliadwrus y trên atal digwyddiad a allai fod yn ddifrifol. Mae'n rhaid i ni bwysleisio pa mor beryglus y gall croesfannau rheilffordd fod os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio’n briodol.”

Roedd 19 achos o gamddefnydd ar groesfan reilffordd Sandy Lane dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys pedwar digwyddiad sy'n cael eu hytyried fel damweiniau a fu bron â digwydd.

Gall trenau deithio ar gyflymder hyd at 75mya dros groesfan reilffordd Sandy Lane.

Ychwanegodd Bethan Lloyd: “Hoffem atgoffa holl ddefnyddwyr croesfannau rheilffordd i stopio, edrych a gwrando, talu sylw i bob arwydd, gwirio'r ddwy ffordd cyn croesi a pheidio byth â chroesi os yw trên yn dod.

"Croeswch yn gyflym ac yn ddiogel bob amser a pheidiwch â stopio pan fyddwch ar y groesfan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.