'Beth sy'n creu llwyddiant yw pobl': Menter gymunedol yn mynd o nerth i nerth yn Nyffryn Nantlle
'Beth sy'n creu llwyddiant yw pobl': Menter gymunedol yn mynd o nerth i nerth yn Nyffryn Nantlle
Wrth i siopau bach ddioddef ledled Cymru mae mentrau cymdeithasol yn gobeithio rhoi bywyd newydd i'r stryd fawr.
Mae un fenter, Yr Orsaf ym Mhenygroes, wedi prynu sawl adeilad o bwys hanesyddol yn y pentref.
Gyda hen adeilad Siop Griffiths yn ‘troi’n adfail’ ar ôl cau ei drysau yn 2010, fe benderfynodd grŵp o wirfoddolwyr i’w phrynu er lles y gymuned.
Casglwyd arian gan drigolion lleol a drwy grantiau er mwyn ei hadfywio ac agor Yr Orsaf yn 2016, sef caffi cymunedol a llety.
Dywedodd un o sylfaenwyr Yr Orsaf, Ben Gregory: “Mae Siop Griffiths yn adeilad pwysig iawn – un o adeiladau cyntaf Penygroes. Pan agorodd yn 1825, roedd o’n dafarn o’r enw’r Stag’s Head, ac yn dafarn am 100 mlynedd. Wedyn cafodd ei ddefnyddio fel Siop Griffiths am 85 mlynedd, oedd ei hun yn bwysig iawn i’r gymuned.
“Rhwng y ddau ddefnydd, mae’r pwysigrwydd i’r gymuned yn uchel iawn, a dyna pam oedd pobl yn gofyn i ni wneud rhywbeth efo fo. Da ni’n gwneud hynny i ddathlu’r etifeddiaeth a threftadaeth yr ardal.”
'Ymateb da iawn'
Bellach mae’r Cwmni Budd Cymunedol wedi perchnogi chwe adeilad a thair gardd yn y pentref, ac yn cynnig nifer o wasanaethau am ddim i drigolion Dyffryn Nantlle.
Mae’r pantri bwyd yn cynnig bwyd i drigolion sydd eu hangen; ac mae’r trafnidiaeth gymunedol, O Fama i Fana, yn tywys pobol hŷn i apwyntiadau meddygol a disgyblion ar dripiau ysgol.
Mae’r ganolfan mentergarwch yn cynnig cyngor a sgiliau i bobl ifanc sydd eisiau cychwyn busnes; ac mae’r Orsaf wedi cynnal 57 o ddigwyddiadau dros yr haf, gan gynnwys gwersi coginio, sesiynau i blant a rhieni, teithiau cerdded, gigiau a phrydau bwyd wythnosol am ddim.
Dywedodd Mr Gregory, sydd yn rheolwr ar Yr Orsaf a’r Hwb Cymunedol: “Da ni wedi cael ymateb da iawn i’r gwasanaethau ‘da ni’n gynnig.
"Mae trafnidiaeth gymunedol yn cael lot o ddefnydd, ac mae o wedi gwneud lot o wahaniaeth i bobol oherwydd mae o am fwy na just cael pobl o A i B.
"Mae fe’n gymdeithasol ac mae elfen o leihau unigrwydd. Mae’r lefel o unigrwydd yn yr ardal, fel bob ardal cefn gwlad, yn uchel iawn. Da chi ddim yn gweld o, dyw o ddim yn amlwg.
“Da ni’n rhoi cyfleoedd i bobl cymdeithasu a chymryd rhan a thrwy hynny mae cael budd iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae gan i bwyslais ar wneud pethau yn yr awyr agored, mae genna ni grŵp sy’n cwrdd bob wythnos yn ein gardd wyllt ni.
"Mae’n gymysgedd o helpu pobl ond hefyd falle i roi cyfle iddyn nhw gymdeithasu.”
Dywedodd Elenid Roberts: “Mae 'na lot yn gwirioni efo’r drafnidiaeth gymunedol. Da ni’n cael pobol sy’n methu mynd i apwyntiadau meddygol oherwydd bod nhw’n methu mynd at y bys neu fel arall sa nhw’n gorfod cael trafnidiaeth gan yr ysbytai, sy’n cymryd trwy’r dydd iddyn nhw.
"A 'da ni di gweld lot ddim yn medru fforddio tacsi chwaith, so da ni’n anelu fwy at y bobol yna sydd wir methu cyrraedd neu allu gadael eu tai blaw bo ni’n helpu nhw.
“I gychwyn, di nhw ddim yn rili deall y term trafnidiaeth gymunedol, so manw’n gallu bod bach yn wyliadwrus, ond unwaith ma nhw’n defnyddio ni, ti’n gweld nhw’n cario ymlaen, sy’n neis gweld y gwahaniaeth mae’n wneud.”
Gwynedd yn 'hotspot' o fentrau cymdeithasol
Nid yw’r Orsaf yn unigryw. Mae dros 30 o fentrau cymdeithasol wedi’u sefydlu ar draws Gynedd bellach, ac mae nifer fawr yn cyd-weithio er mwyn rhannu eu ‘heriau a’u llwyddiannau’.
“Ers 10 mlynedd rŵan, mae mwy a mwy o fentrau cymunedol wedi datblygu, yn arbennig yng Ngwynedd. ‘Da ni fel ryw fath o hotspot ar gyfer mentrau cymunedol ym Mhrydain. Mae dros 30 o fentrau cymunedol drwy’r sir a da ni’n cwrdd yn aml,” meddai Mr Gregory.
“Ond un o’r prif ffocws o bob un ohonyn nhw ydy i achub adeiladau sydd mewn perygl o ddod allan o ddwylo’r gymuned, ac i adfywio’r stryd fawr. So mae lot o’r pethau da ni i gyd yn wneud yn creu bwrlwm yn y stryd fawr.”
Cynnig gwaith
Mae’r Orsaf yn cyflogi 10 o bobl bellach, ac mae cynnig swyddi hefyd yn elfen hollbwysig o’i rôl yn y gymuned.
Meddai Mr Gregory: “Da ni’n trio neud dau beth. Un ydi – mae pawb yn gwybod pa mor anodd ydy o i bobl ifanc i ffeindio swyddi yn yr ardal yma, yn lle bod nhw’n symud i ffwrdd.
"Trwy ein gweithgareddau a trwy ein swyddi, da ni’n annog pobol i symud yn ôl drwy greu swyddi a chreu cyfleoedd economiadd.
“Ond y peth arall ydi i greu gweithgareddau a digwyddiadau sy’n rhoi mwy na dim ond rheswm economaidd i aros yn yr ardal, achos mae pobl eisiau pethau cymdeithasol i wneud hefyd, pethau ar gyfer eu plant eu gwneud, pethau ar gyfer pobl ifanc.”
Felly beth sydd yn galluogi mentrau cymdeithasol i ffynnu mewn trefi fel Penygroes, Bethesda, Llanberis, Blaenau Ffestiniog ac eraill ar draws y sir?
Dywedodd Ms Roberts: “Dwi’m yn siŵr iawn be yn union ydi o am Ddyffryn Nantlle, ond mae’n ardal chwareli a dwi’n meddwl bod 'na gymdeithas fwy clos yn bodoli yna beth bynnag, oherwydd yr oes chwareli.
"Pan neshi symud yma tair mlynadd yn ôl, geshi’r teimlad na’n syth am Ddyffryn Nantlle, bod o’n gymdeithas glos o fod pawb yn trio helpu ei gilydd.”
Ychwanegodd Mr Gregory: “Un rheswm mae'r Orsaf yn llwyddo ydi pobol.
"Yn y diwedd, just brics a mortar, neu cerrig, ydi’r adeiladau yma. Y pethau sy’n creu llwyddiant ydy pobol.”