Newyddion S4C

Het Indiana Jones yn gwerthu am dros £450,000

16/08/2024
Het Indiana Jones

Mae het a gafodd ei gwisgo gan Harrison Ford mewn ffilm Indiana Jones wedi gwerthu am dros £450,000 mewn ocsiwn.

Cafodd yr het ei gwisgo mewn golygfa yn ffilm Indiana Jones and The Temple of Doom pan aeth yr archeolegydd yn sownd a bu rhaid i Indiana Jones afael ynddo cyn i ddrws trap gwympo arno.

Roedd Propstore wedi gwerthu'r het am $630,000, sef £488,464.

Roedd yn rhan o ocsiwn a welodd propiau o nifer o ffilmiau fel Star Wars a James Bond yn cael eu gwerthu.

Gwerthodd model chwe throedfedd o'r Batwing, yr awyren a ddefnyddiwyd gan Batman yn y ffilm yn 1989 gyda Michael Keaton am £314,931, tra bod siwt o'r ffilm James Bond, Skyfall a wisgwyd gan Daniel Craig wedi gwerthu am £24,412.

Image
Model Batwing
Model y Batwing. Llun: PA

Roedd memrobilia Star Wars o'r ffilm Return Of The Jedi yn 1983 hefyd wedi eu gwerthu.

Cafodd helmed imperial scout trooper ei gwerthu am £244,123, ac fe werthwyd model Darth Vader o'r 1980au o The Empire Strikes Back am £122,062.

'Hanesyddol'

Dywedodd Brandon Alinger, prif swyddog gweithredu Propstore: “Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant anhygoel diwrnod cyntaf ein harwerthiant.

“Roedd yr arwerthiant nid yn unig yn rhagori ar ein disgwyliadau ond hefyd yn tynnu sylw at apêl parhaol cyfresi ffilmiau fel Batman, Star Wars, Alien ac Indiana Jones - yn ogystal â Forrest Gump a chlasuron fel Happy Gilmore.

“Rydyn ni’n falch o fod wedi cysylltu cymaint o ffans y ffilmiau â’r darnau hanesyddol maen nhw’n eu caru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dri diwrnod nesaf yr arwerthiant.”

Mae'r arwerthiant yn parhau ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul.

Llun: PA/Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.