Elusen sydd wedi cefnogi Medi Harris 'mor falch' o'i llwyddiant
Mae elusen sydd wedi cefnogi'r nofwraig o Borthmadog Medi Harris dros y blynyddoedd 'mor falch' o'i llwyddiant yn y Gemau Olympaidd.
Daeth Medi yn chweched yn ei ras 100m dull cefn yn y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni.
Fe wnaeth hi hefyd helpu'r tîm ras gyfnewid 4 x 200m i gyrraedd y rownd derfynol.
Bu farw Robin Llyr Evans yn dilyn damwain tra'n gweithio mewn stadiwm newydd yn Wuhan, Tsieina ym mis Medi 2015 yn 20 oed.
Cafodd cronfa ei sefydlu yn 2018 yn ei enw, sef Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llyr Evans.
Roedd ei deulu yn awyddus i sefydlu rhywbeth er cof amdano er mwyn adlewyrchu'r angerdd oedd ganddo at fywyd a chwaraeon.
Dywedodd tad Robin, Gareth Evans, wrth Newyddion S4C: "'Dan ni'n cefnogi athletwyr ifanc o dan 25 oed mewn unrhyw chwaraeon a 'dan ni'n fwy na bodlon cysidro rhoi arian i'w cefnogi nhw."
Un o'r athletwyr yma oedd Medi Harris, ac fe wnaeth Gareth a'r elusen sylwi ar ei thalent o'r dyddiau cynnar.
"Pan oedda ni yn sefydlu'r elusen yn 2017/18, natho ni ddewis Medi fel un o'r llysgenhadon ag oedd 'na wyth o lysgenhadon o Wynedd a Chonwy a oeddan ni'n prowd iawn o gael Medi fel un o'r rhai cyntaf," meddai.
"Oedd yr addewid yn nofio Medi yn uchel ofnadwy yn ei hoedran amser hynny ag wrth gwrs, ma' hi wedi cyrraedd y nod hefyd."
'Rhoi gobaith' i bobl ifanc
Mae'r elusen yn awyddus i gynnig cymorth ariannol a fydd yn cynorthwyo athletwyr ifanc yr ardal gyda chostau hyfforddi a theithio uchel.
"Ma' hi'n anodd iawn i athlewyr o'r rhan yma o'r byd. Yn gyntaf, 'dan ni'n bell o bobman iddyn nhw gael gwasanaethau hyfforddiant da a ma' 'na waith trafeilio so ma' bob peth yn anodd," meddai Gareth.
"O'dd Robin yn un oedd yn chwarae lot o chwaraeon ag mi oedd o'n wbath i ni sefydlu i gofio amdana fo a rhywbeth i helpu a rhoi gobaith i bobl ifanc a ffydd bod 'na agoriad iddyn nhw os nawn nhw dal i weithio'n ddigon galed a bod yn benderfynol - ma'r siawns yna iddyn nhw."
Mae'r elusen wedi cefnogi 87 person ifanc o ogledd-orllewin Cymru ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl, gydag unigolion yn derbyn grantiau rhwng £200 a £2000.
Mae £80,000 wedi cael ei ddosbarthu i unigolion dros y cyfnod yma, ac eleni, mae'r elusen yn gobeithio mynd y tu hwnt i'r trothwy o gyrraedd £100,000.
'Meddwl y byd ohoni'
Mae'r elusen yn falch iawn o lwyddiant Medi, ac yn gobeithio y bydd yn gallu ysbrydoli athletwyr eraill o ogledd-orllewin Cymru.
"Dan ni'n hynod o falch o Medi wrth gwrs - oedd bod yn y Gemau Olympaidd yn rwbath anhygoel i ddechre, y ffaith wedyn bod hi wedi cael ei dewis i'r tîm, oedd hynny hefyd yn anhygoel, a dim ond colli allan o chwarter eiliad yn y diwedd o gael medal," meddai Gareth.
"Mi ddyle hi fod yn hynod o falch o'i hymdrech hi, ma' hi wedi gwneud rwbath arbennig i ogledd-orllewin Cymru a 'dan ni a llawer o rei eraill yn meddwl y byd ohoni.
"Oedd pobl Porthmadog a'r ardal i gyd mor gefnogol ohoni."