‘Oedi mawr i gynlluniau ynni’ petai Ystâd y Goron yn cael ei datganoli medd Ysgrifennydd Cymru
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud y byddai “oedi mawr” i gynlluniau ynni yng Nghymru petai Ystâd y Goron yn cael ei datganoli i Gymru.
Mae Plaid Cymru wedi mynnu bod angen trosglwyddo pwerau dros Ystâd y Goron i Gymru, fel sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban, er mwyn creu swyddi gwyrdd.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi galw am ddatganoli Ystâd y Goron ers rhai blynyddoedd.
Ond wrth siarad ar bodcast Hiraeth dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens mai oedi cynlluniau ynni fyddai effaith datganoli'r ystâd, sy'n eiddo i'r Brenin ond sy'n talu ei refeniw i'r Trysorlys.
“Un o’r darnau cyntaf o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yn syth ar ôl yr etholiad oedd sefydlu GB Energy sy’n eiddo cyhoeddus a’r bartneriaeth honno rhwng GB Energy ac Ystâd y Goron,” meddai.
“Dyna £60 biliwn o fuddsoddiad preifat yn y DU a llawer ohono yng Nghymru.
“Ac felly nid yw hynny'n mynd i ddigwydd os ydan ni’n dechrau datganoli Ystâd y Goron.
“Fe fyddai yna oedi enfawr. Fe fyddai yna rwystrau yn cael eu codi.
“Rydw i wedi siarad â nifer mawr iawn o gwmnïoedd ynni am ffermydd gwynt oddi ar yr arfordir.
“Does yr un ohonyn nhw wedi dweud: ‘Wyddoch chi beth sydd angen ei wneud? Datganoli Ystâd y Goron."
Ychwanegodd: “Maen nhw eisiau llai o oedi. Mae angen symud i le lle mae modd adeiladu'r ffermydd gwynt a dod a biliau i lawr.
“Creu swyddi a sicrhau annibyniaeth ynni ar gyfer y Deyrnas Unedig. Fel nad ydyn ni yn yr un sefyllfa ag oedden ni pan oedd Putin wedi ymosod ar Wcráin.
“Ond o ddatganoli Ystad y Goron, byddai hynny'n creu rhwystr ac oedi a kibosh ar lawer o'r hyn yr ydym am ei gyflawni.”
Dywedodd na fyddai chwaith yn sicrhau rhagor o arian i Gymru.
Yn yr Alban fe gytunwyd y byddai unrhyw refeniw ychwanegol i Lywodraeth yr Alban o Ystâd y Goron yn cael ei dynnu o grant bloc y llywodraeth gan y Trysorlys, meddai.
“Mae angen bod yn ofalus iawn beth ydych chi’n galw amdano wrth edrych ar hyn,” meddai.
‘Diwygio’
Ym mis Chwefror fe wnaeth Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru argymell sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar frys i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystâd y Goron.
Ym mis Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb gan ddweud: “Rydym wedi bod o’r farn ers tro y dylid datganoli Ystâd y Goron i Gymru yn unol â’r sefyllfa yn yr Alban.
“Rydym wedi bod yn glir bod y setliad datganoli presennol ar gyfer ynni yn cyfyngu ar ein gallu i gyflawni polisi yng Nghymru mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein blaenoriaethau polisi ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym yn croesawu’r argymhelliad i gael grŵp arbenigol i roi cyngor ar sut y gellid diwygio’r setliad datganoli i gefnogi ein huchelgeisiau.”
Wrth ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024 fe wnaeth Plaid Cymru gynnwys datganoli Ystâd y Goron yn eu maniffesto.
“Mae’r diffyg rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol yn golygu ein bod yn gyfoethog pan mae’n dod at ynni ond yn dlawd o ran tanwydd,” meddai'r blaid.