Cymraes i gynrychioli Prydain yn yr Ironman ar ôl dechrau ymarfer corff yn y cyfnod clo
Mae nyrs a ddechreuodd ymarfer corff yn rheolaidd yn ystod cyfnod clo pandemig Covid-19 wedi ei dewis i gynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth Ironman.
Ym mis Medi bydd Abbie Evans cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth Ironman yn Nice, Ffrainc, ei hail gystadleuaeth ryngwladol.
Dechreuodd ymarfer corff yn rheolaidd yn ystod y cyfnod clo bedair blynedd yn ôl.
“Dim ond ers tua thair blynedd rydw i wedi bod yn gwneud triathlons. Roedd hi'n amser Covid ac roedd popeth ar gau," meddai.
"Dechreuodd fy mrawd ei wneud ac roeddwn bob amser wedi bod eisiau mynd i mewn iddo felly fe wnes i ddechrau'n ara' deg.
“Pan o’n i dipyn yn iau ro’n i’n chwarae hoci ac yn gwneud dipyn o crossfit ond dim byd tebyg i driathlon."
Dywedodd y nyrs 36 oed o Sgeti, Abertawe bod dechrau nofio a beicio yn her anoddach nag yr oedd hi'n ei ddisgwyl.
“Roedd yn rhaid i mi ddechrau nofio eto. Roeddwn i wedi nofio hyd at tua 12 oed ond roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl i mewn iddo pan ddechreuodd y pyllau nofio ailagor. Fe wnes i lawer o nofio dŵr agored hefyd ond, unwaith eto, roedd hynny'n rhywbeth i adeiladu tuag at hwn.
“Roedd yn rhaid i mi ddechrau beicio hefyd. Pan ddechreuais i gyntaf roeddwn yn gwisgo trainers a dillad chwaraeon arferol.
“Roeddwn i wedi gwneud ychydig o redeg ond dim byd cystadleuol. Byddwn i'n mynd allan i redeg ond dim byd difrifol."
'Gwahaniaeth gwirioneddol'
Yn y blynyddoedd diwethaf mae Abbie Evans wedi mynd o fod yn rhywun oedd yn chwarae hoci pan oedd hi’n "lawer iau" i allu nofio 2.4 milltir yn y môr, beicio 112 milltir, ac yna rhedeg marathon 26.2 milltir mewn ychydig mwy na’r amser a dreuliwyd yn gwneud shifft 12 awr.
Mae diolch i'w chlwb triathlon Swansea Vale Tri am hynny, meddai.
“Ymuno â chlwb wnaeth wahaniaeth gwirioneddol. Mae gan Swansea Vale Tri tua 400 o aelodau nawr ac mae'n dda iawn."
Ei triathlon mawr cyntaf oedd Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod ddwy flynedd yn ôl.
“Fe wnes i hynny am y tro cyntaf ym mis Medi 2022, mewn 13 awr," meddai.
“Cefais fy synnu braidd gyda fy amser. I ddechrau dim ond ei chwblhau oedd y nod. Wnes i erioed feddwl mewn miliwn o flynyddoedd y byddwn i hyd yn oed yn gwneud un i fod yn onest."
Ar ôl cwblhau Ironman arall yn y Cotswolds, cafodd Abbie ei ddewis i gynrychioli Prydain yn y grŵp oedran 35-40 oed ym Mhencampwriaethau Ewrop eleni ym mis Mehefin.
“Fi oedd y drydedd fenyw Brydeinig yn fy ngrŵp oedran felly rydw i’n cymhwyso ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd, sy’n dda," meddai.
Roedd bonws ychwanegol i gynrychioli Prydain, sef bod ei brawd iau, Sam Evans, hefyd yn gymwys ar gyfer y digwyddiad.
Dywedodd Abbie: “Roedd yn cŵl iawn. Cafodd fy mrawd ei ddewis yn ei grŵp oedran hefyd, felly roedd y ddau ohonom yn cystadlu dros Brydain.”