Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon ein gwasanaeth ar fore Iau, 8 Gorffennaf, o Gymru a thu hwnt.
Y diddanwr Idris Charles wedi marw
Mae'r diddanwr Idris Charles wedi marw yn 74 oed. Yn ystod y 60au a'r 70 roedd yn gyfrifol am gynnal nosweithiau adloniant i gynulleidfa eang. Yn ddiweddarach yn ei yrfa fe fu'n cynhyrchu ar ran cwmni Tinopolis. Roedd yn briod gyda Ceri ac yn dad i Iwan ac Owain Williams.
Teithio rhyngwladol i wledydd oren yn debygol wedi dau frechiad - Sky News
Mae disgwyl cyhoeddiad am newidiadau i'r rheolau ar deithio rhyngwladol yn ddiweddarach ddydd Iau. Ar hyn o bryd, mae angen i deithwyr sy'n dychwelyd i'r Deyrnas Unedig o wledydd ar y rhestr oren hunanynysu am hyd at 10 diwrnod.
Rhybudd wrth i nifer fod yn yr ysbyty ar ôl ymateb i gyffuriau - Wales Online
Mae rhybudd brys wedi ei ryddhau gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi i nifer o bobl gael eu cymryd i'r ysbyty dros nos ar ôl ymateb yn wael i gyffuriau. Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn hwyr nos Fercher fod nifer o bobl yn cael eu trin yn Ysbyty Treforys ar ôl cymryd dos gormodol o gyffur.
Galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru
Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi galw ar weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i “weithredu ar eu haddewidion” i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru. Mae disgwyl i’r gweinidog ynghyd â’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, ymddangos o flaen Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan yn ddiweddarach ddydd Iau.
Tokyo i fod mewn cyfnod o argyfwng yn ystod y Gemau Olympaidd - The Guardian
Mae disgwyl i lywodraeth Japan gyhoeddi cyfnod o argyfwng yn Tokyo a fydd yn parhau i fod mewn grym yn ystod y Gemau Olympaidd. Daw'r cyhoeddiad wrth i'r brifddinas ddelio a chynnydd mewn achosion o'r coronafeirws.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.