Newyddion S4C

Rhybudd wrth i nifer fod yn yr ysbyty ar ôl ymateb i gyffuriau

Wales Online 08/07/2021
Ysbyty Treforys

Mae rhybudd brys wedi ei ryddhau gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi i nifer o bobl gael eu cymryd i'r ysbyty dros nos ar ôl ymateb yn wael i gyffuriau.

Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn hwyr nos Fercher fod nifer o bobl yn cael eu trin yn Ysbyty Treforys ar ôl cymryd dos gormodol o gyffur.

Y gred yw bod y cyffuriau yn llwyth gwael sydd o bosib yn cael ei gam-werthu fel Valium a Xanax, yn ôl Wales Online.

Fe gadarnhaodd y bwrdd iechyd fod yr Uned Gofal Brys yn brysur tu hwnt nos Fercher, gan ofyn i bobl gadw draw oni bai fod ganddynt anaf neu salwch difrifol.

Darllenwch y diweddaraf yma.

Llun: Jaggery (drwy Geograph)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.