Newyddion S4C

Y diddanwr Idris Charles wedi marw

08/07/2021
Idris Charles

Mae'r diddanwr Idris Charles wedi marw yn 74 oed.

Yn frodor o Fôn ac yn fab i'r actor Charles Williams a'i wraig Jennie, cafodd ei eni ym Modffordd a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Llangefni.

Yn ystod y 60au a'r 70au roedd yn gyfrifol am gynnal nosweithiau adloniant i gynulleidfa eang.

Yn ystod yr 80au bu'n cynhyrchu rhaglenni poblogaidd i HTV Cymru yn cynnwys Bwrw'r Sul, Cyfle Byw a Sblat.

Roedd yn wyneb cyfarwydd a phoblogaidd o flaen camera yn ystod y cyfnod yma hefyd, gan ddiddanu cenhedlaeth o Gymry gyda'i hiwmor.

Bu'n cyflwyno rhaglenni adloniant a chwisiau gan ymddangos ar Pobol y Cwm hefyd.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa fe fu'n cynhyrchu ar ran cwmni Tinopolis.

Roedd yn awdur ar dair cyfrol ac yn gefnogwr brwd i Glwb Pêl-droed Casnewydd.  Y ddinas honno oedd ei gartef am flynyddoedd.

Roedd yn briod gyda Ceri ac yn dad i Iwan ac Owain Williams.

'Un o'r goreuon'

Dywedodd Cadeirydd Tinopolis Cymru, Angharad Mair: "Mor mor drist clywed fod Idris Charles wedi’n gadael ni.

"Yn ddiddanwr gwych, yn ddyn annwyl tu hwnt.

"Un o’r goreuon yn gweithio gyda ni ar Heno - mor frwdfrydig, hollol angerddol ac adnabod ei gynulleidfa yn well na neb.

"Colled fawr ar ei ôl, cydymdeimladau mawr â’r teulu".

Mewn cyfweliad ar Radio Cymru fore dydd Iau, dywedodd ei fod yn "ddiddanwr penigamp a chwbl naturiol".

"Roedd e'n ddoniol a ffraeth, ac yn hoff o ddiddanu pobl," dywedodd.

"Roedd e'n ddyn anhunanol tu hwnt, bob amser isie i bobl eraill serennu.

"Roedd e am i bobl gael eu diddanu yn Gymraeg, o'dd e am i Gymru fod yn le cyffrous i bobl ifanc".

'Cymeriad llawn angerdd'

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae Cymru wedi colli cymeriad a oedd yn llawn angerdd am bobl ei wlad ac yn deall beth oedd stori dda allai ddal dychymyg gwylwyr.

"Roedd Idris Charles yn ddyn ag amrywiaeth o dalentau, ac roedd yn eu dangos ar deledu a radio wrth gyflwyno, actio, cynhyrchu, cyfarwyddo, ffilmio a sylwebu ar y maes chwarae.

"Roedd popeth a gynhyrchodd ar gyfer S4C, gyda thimau cynhyrchu HTV, Tinopolis a chynhyrchwyr annibynnol eraill, yn anelu at ddarparu adloniant poblogaidd o safon uchel.

"Fe fydd yna golled ar ei ôl ymysg gwylwyr, gwrandawyr a phobl yn y diwydiannau creadigol".

Dywedodd y bardd Aneirin Karadog: "Mae fy meddyliau gyda theulu a chyfeillion Idris Charles.

"Ces y fraint o eistedd wrth ei ymyl am flynyddoedd wrth weithio yn Tinopolis gan ddysgu a chwerthin am yn ail yn ei gwmni, heb sôn am gynganeddu enwau chwaraewyr pêl-droed at ddibenion ei waith sylwebu ar benwythnosau".

Ychwanegodd un o gyflwynwyr Heno, Elin Fflur: "Newddion trist iawn am Idris Charles.  Dyn annwyl, bob amser llawn hwyl ac yn deall ‘adloniant’ i’r dim.

"Braint oedd cydweithio gyda fo ar Heno roedd o mor gefnogol i mi trwy ngyrfa.

"Un o hogiau gorau Môn! Mi fydda i’n gweld colli’r gyfeillgarwch. Meddwl am y teulu i gyd".

Llun: Y Lolfa

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.