Newyddion S4C

Galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru

08/07/2021
Llong

Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi galw ar weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i “weithredu ar eu haddewidion” i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r gweinidog ynghyd â’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, ymddangos o flaen Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan yn ddiweddarach ddydd Iau.

Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd penodol lle nad yw rheolau trethi a thollau arferol y wlad ddim yn cael eu gweithredu, ac felly yn galluogi i nwyddau gael eu mewnforio a’u hallforio heb orfod talu trethi.

Yn flaenorol, mae Llywodraeth y DU wedi addo gweithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig er mwyn sicrhau gall holl wledydd y DU dderbyn unrhyw fanteision o’r porthladdoedd rhydd.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynnig ffurfiol iddynt ar borthladd rhydd yng Nghymru hyd yma.

Wrth siarad cyn ymddangos o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd Vaughan Gething: "Rydym yn dal i fod yn agored i'r syniad o sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru, ond er mwyn creu un yma, rhaid defnyddio pwerau datganoledig. Ond, fel y mae pethau, nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno i'n cais i wneud penderfyniadau ar y cyd, ac nid oes unrhyw gyllid priodol ychwanegol wedi'i gynnig inni.

"Rydym wedi gofyn sawl gwaith i Weinidogion y DU am drafodaeth adeiladol. Mae'r diffyg eglurder ynghylch Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, polisi sy’n eiddo i Lywodraeth y DU, yn ansefydlogi penderfyniadau busnes mewn amgylchedd economaidd sydd eisoes yn eithriadol o ansicr, gan gael effaith uniongyrchol ar benderfyniadau buddsoddi. At hynny, gall eu penderfyniad i gyhoeddi Porthladdoedd Rhydd penodol ar gyfer Lloegr, heb benderfynu ar drefniadau ar gyfer Cymru, beryglu swyddi a chynlluniau buddsoddi yng Nghymru.”

Ychwanegodd Mr Gething: “Tan y cawn ymateb gan Lywodraeth y DU a chynnig ffurfiol ganddi, mae'r bêl yn dal i fod yn nwylo Llywodraeth y DU.

"Mae ein neges i Lywodraeth y DU yn glir – gallai awgrym Ysgrifennydd Gwladol Cymru y gallai Llywodraeth y DU orfodi Porthladd Rhydd ar Gymru heb ein bendith arwain at ganlyniad gwaeth i bawb. Mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda ni, nid yn ein herbyn."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Llywodraeth y DU am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.