Tokyo i fod mewn cyfnod o argyfwng yn ystod y Gemau Olympaidd

Gemau Olympaidd
Mae llywodraeth Japan wedi cyhoeddi cyfnod o argyfwng yn Tokyo a fydd yn parhau i fod mewn grym yn ystod y Gemau Olympaidd.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r brifddinas ddelio â chynnydd mewn achosion o'r coronafeirws.
Mae'r mesurau, a gafodd eu cyhoeddi'n swyddogol gan y prif weinidog, Yoshihide Suga, ddydd Iau, yn cynyddu'r posibilrwydd na fydd y cyhoedd yn cael gwylio'r Gemau.
Cafodd 920 achos newydd eu cofnodi ddydd Mercher, sef y nifer uchaf ers 13 Mai, yn ôl The Guardian.
Dyma yw pedwerydd cyfnod argyfwng Tokyo wrth i'r ddinas ymateb i'r pandemig, ac mae disgwyl i'r cyfnod barhau tan 22 Awst.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.