Caniatáu teithio rhyngwladol i wledydd oren wedi dau frechiad
Mae newidiadau wedi eu cyhoeddi i'r rheolau ar deithio rhyngwladol.
Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wedi cyhoeddi na fydd rhaid i deithwyr sy'n dychwelyd i'r DU o wledydd sydd ar y rhestr oren hunanynysu os ydynt wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn Covid-19.
Ar hyn o bryd, mae angen i deithwyr sy'n dychwelyd hunanynysu am hyd at 10 diwrnod.
Mae hyn yn agor y drws i wyliau tramor dros yr haf, gyda gwledydd fel Ffrainc, Sbaen, Portiwgal a'r Eidal ar y rhestr oren.
Fe fyddai'n rhaid i deithwyr gymryd prawf PCR ar yr ail ddiwrnod wedi eu dychweliad i'r DU, yn ôl The Independent.
Mae disgwyl i'r newidiadau gael eu cyflwyno yn ddiweddarach y mis hwn.
Hyd yma, mae unrhyw newidiadau i'r rheolau teithio gan Lywodraeth y DU wedi effeithio ar Gymru hefyd.
Ond, mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi gofyn i bobl dreulio eu gwyliau'n agosach i adref eleni.