Newyddion S4C

'Difrod i gyfleusterau chwarae' ysgol yng Ngwynedd

16/08/2024
Difrod Ysgol y Traeth

Mae cyfleusterau chwarae un ysgol yng Ngwynedd wedi cael eu difrodi.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw wedi adroddiad o ddifrod i gyfleusterau chwarae Ysgol Y Traeth yn Abermaw ar 9 Awst.

Dyma'r ail achos o ddifrod yn yr ysgol yn y mis diwethaf, sydd wedi cael "effaith ariannol" ar yr ysgol yn ôl yr heddlu.

Ychwanegodd y llu fod nifer fawr o bobl ifanc wedi cael eu gweld ar dir yr ysgol, ac nad oes ganddyn nhw yr hawl i ymgynnull ar dir yr ysgol y tu allan i oriau ysgol. 

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 24000691904.

Llun: Sian Humphreys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.