Rhybudd elusen am fridio cathod ‘XL bully’ yn y DU
Mae elusen wedi rhybuddio yn erbyn yr arfer o fridio a phrynu cathod ‘XL bully’ yn y Deyrnas Unedig.
Y gred yw bod y rheini sy'n bridio'r cathod sy'n fath o Sphynx di-flew wedi eu hysbrydoli gan y brid cŵn 'XL Bully' sydd wedi eu gwahardd yn y Deyrnas Unedig ers 1 Chwefror.
Dywedodd elusen Naturewatch Foundation nad yw'r gath 'bully' yn berygl ond fod gyda nhw bryderon am iechyd a lles yr anifeiliaid.
"Mae'n syfrdanol gweld bod y cathod druan hyn yn dechrau ymddangos yn y DU," meddai llefarydd.
"Rydyn ni wedi gweld arferion bridio cynyddol eithafol ym myd cŵn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n ymddangos bod pobl ddiegwyddor bellach yn troi eu sylw at gam-drin cathod yn yr un modd.
"Mae'r cyfan fel eu bod nhw'n gallu cael sylw ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae cathod 'bully' yn drychineb i les anifeiliaid sy'n datblygu o flaen ein llygaid ac mae'r math hwn o fridio yn greulon."
'Torcalonnus'
Dywedodd Dr Dan O'Neill, Athro Cyswllt Epidemioleg Anifeiliaid Anwes yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC), ei fod yn rhannu pryderon yr elusen.
"Mae'r RVC wedi cynhyrchu llawer iawn o ymchwil dros y degawd diwethaf, sy'n dangos y dioddefaint aruthrol y mae'r ddynoliaeth wedi'i achosi i gŵn oherwydd ein diddordeb gyda siapiau corff eithafol," meddai.
"Mae'n dorcalonnus gweld yr un dioddefaint yn digwydd i gathod.
"Mae cathod 'bully" yn debygol o ddioddef bywydau byrrach tebyg i'r rhai a adroddwyd yn ddiweddar mewn cathod Sphynx a oedd yn byw am 6.7 mlynedd o’i gymharu gyda 11.6 ar gyfer cathod yn gyffredinol.”