Mpox: Beth yw'r symptomau?
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod yr achosion o mpox mewn rhannau o Affrica yn "argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol", a bod un achos wedi ei ddarganfod yn Ewrop.
Ond beth yn union ydy symptomau'r cyflwr?
Mae'r afiechyd heintus iawn – gafodd ei alw gynt yn frech y mwncïod - wedi lladd o leiaf 450 o bobl yn ddiweddar yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Mae bellach wedi lledaenu ar draws rhannau o ganolbarth a dwyrain Affrica ac yn Ewrop, ac mae gwyddonwyr yn poeni pa mor gyflym y mae amrywiolyn newydd o'r afiechyd yn lledaenu a'i gyfradd marwolaethau uchel.
Yn ôl y GIG, os ydych chi'n cael eich heintio gyda mpox, fel arfer, mae'n cymryd rhwng pump a 21 diwrnod i symptomau ddechrau ymddangos.
Mae'r symptomau cyntaf yn cynnwys:
- Tymheredd uchel
- Cur yn pen
- Poen yn y cyhyrau
- Poen cefn
- Chwarennau chwyddedig (Swollen glands)
- Blinder
- Poen yn y cymalau
Mae brech (rash) yn dechrau ymddangos fel arfer rhwng un a pump diwrnod ar ôl y symptomau cyntaf, yn aml gan ddechrau ar y wyneb cyn lledaenu i fannau eraill o'r corff.
Mae'r symptomau fel arfer yn clirio ar ôl ychydig o wythnosau, a thra bod gennych chi'r symptomau, mae'n bosib pasio mpox ymlaen i bobl eraill.
Brechlyn
Mae mpox yn cael ei drosglwyddo trwy gyswllt agos, fel rhyw, cyswllt croen-i-groen a siarad neu anadlu'n agos at berson arall.
Mae'n achosi symptomau tebyg i ffliw, briwiau croen a gall fod yn angheuol, gyda phedwar o bob 100 o achosion yn arwain at farwolaeth.
Mae dau brif fath o mpox - Clade 1 a Clade 2. Fe achoswyd argyfwng iechyd cyhoeddus mpox blaenorol yn 2022, gan achosion o Clade 2, sydd yn gymharol ysgafn.
Bryd hynny fe gofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 40 achos o’r haint yng Nghymru.
Gobaith Sefydliad Iechyd y Byd yw y bydd datgan mpox fel argyfwng iechyd cyhoeddus yn arwain at gyflymu ymchwil, cyllid, a chyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus rhyngwladol eraill.
Yn wahanol i Covid ar ddechrau'r pandemig mae yna eisoes frechlyn ar gyfer mpox - sef yr un brechlyn a lwyddodd i atal lledaenu y frech wen rhwng 50au a 70au'r ganrif ddiwethaf.