Newyddion S4C

Ymgyrch gan ddwy fam o Fôn i gydnabod pob babi sydd wedi ei golli

16/08/2024
Fiona Hughes ac Emma Telford Owen

Mae dwy fam o Ynys Môn a wnaeth rannu eu profiad o golli babanod er mwyn helpu eraill yn gobeithio gweld newid yn y gwasanaeth iechyd ar draws Cymru.

Mae Fiona Hughes, 46, o Ddulas ac Emma Telford Owen, 38, o'r Gaerwen, wedi wynebu'r profiad trasig o golli babanod cyn iddyn nhw gael eu geni. 

Yng Nghymru, dim ond ar ôl 24 wythnos mae genedigaeth farw yn cael ei chydnabod. Cyn hynny, does dim tystysgrif yn gofnod.

Fe wnaeth Fiona golli Cadi yn 2013, ac Osian yn 2015 - y ddau ar ôl 21 wythnos, sef cyn y dyddiad cofrestredig o 24 wythnos. 

Fe wnaeth Emma golli Efan wedi 22 wythnos yn 2014, a Lydia ar ôl 34 wythnos yn 2018, gan olygu y gallai Lydia gael ei chofrestru, ond nid oedd modd gwneud hynny ar gyfer Efan. 

Mae'r ddwy wedi gweithio gyda'i gilydd i ffurfio elusen Pluen Wen er mwyn cynnig tystysgrifau i bob rhiant sy'n colli eu babanod. 

Image
Tystysgrif Pluen Wen
Tystysgrif Pluen Wen

I ddechrau, y bwriad oedd darparu tystysgrifiau ar gyfer babanod nad oedd modd eu cofrestru cyn 24 wythnos, ond bellach mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud i gynnig rhai ar gyfer unrhyw faban sy'n cael ei golli mewn beichiogrwydd. 

Ar ôl gweithio gydag Ysbyty Gwynedd, mae'r ddwy yn dweud fod y cynllun wedi lledaenu yn sydyn i ysbytai eraill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys Ysbyty Maelor yn Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd. 

Ond bellach, maent yn gobeithio y bydd eu tystysgrifiau yn cael eu cyflwyno mewn byrddau iechyd ar draws Cymru, ac yn ceisio cefnogaeth gan wleidyddion yng Nghaerdydd. 

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn ac arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, ac yn paratoi at ysgrifennu i'r byrddau iechyd yn unigol ar draws Cymru. 

Image
Fiona
Fiona, ei gŵr Arwyn a'u merch, Catrin.

Mae Fiona a'i gŵr Arwyn bellach yn rhieni balch i'w merch wyth oed, Catrin. 

"Mae hi'n anodd iawn i famau, a'r teuluoedd, i golli plentyn," meddai Fiona.

"Os ydy'r babi yn marw cyn 24 wythnos, rydych chi'n mynd adref gyda dim byd i ddangos bod eich babi chi wedi bodoli. 

"Rydym ni'n gobeithio un dydd y bydd y tystysgrifiau yn cael eu defnyddio mewn byrddau iechyd ar draws Cymru."

Image
Emma
Emma, ei gŵr, Carwyn, a'u plant, Alys a Noa.

Mae Emma yn athrawes yn Llanfairpwll, ac yn briod â Carwyn ac mae ganddynt ddau o blant, Alys, 8, a Noa, 4. 

Dywedodd Emma: "Y cynllun gwreiddiol oedd i gynnig tystysgrifau i deuluoedd a gollodd fabanod cyn 24 wythnos. Ond fel rhywun sydd wedi profi colled cyn ac ar ôl hynny, ro'n i'n teimlo y byddai hi wedi bod o gysur derbyn tystysgrif i Efan a Lydia. 

"Felly fe wnaethom ni benderfynu eu cynnig nhw ar unrhyw adeg o'r feichiogrwydd. Mae'r broses wedi bod yn emosiynol iawn, ond mae'n gysur meddwl ein bod ni wedi helpu eraill."

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: "Dwi'n edmygu gwaith Fiona ac Emma, o rannu eu profiadau personol, er mwyn ceisio cynnig cysur i rieni sy'n wynebu colli bababnod. 

"Dwi'n ddiolchgar i Emma a Fiona am bopeth maen nhw’n ei wneud ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i geisio sicrhau bod cymaint o rieni eraill â phosibl yn gallu teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar yr adegau anoddaf hyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pob teulu sy'n wynebu colli babanod yn ystod beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth, a gan elusen Sands ymysg eraill, ac yn cael cynnig bocsys atofion sy'n cynnwys tystysgrif o enedigaeth.

"Rydym ni hefyd yn gweithio gyda swyddogion yn Lloegr i archwilio cyflwyno’r broses tystysgrif ar draws Cymru i gydnabod colli babanod yn ffurfiol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.