Newyddion S4C

Arestio dau ym Mhwllheli am ‘ymyrryd â cheir’

16/08/2024
Ffordd Caerdydd, Pwllheli

Mae dau ddyn wedi eu harestio ym Mhwllheli o dan amheuaeth o ymyrryd â cheir.

Roedd Heddlu’r Gogledd wedi derbyn adroddiad fod dau unigolyn wedi eu gweld yn ceisio agor drysau cerbydau yn ardaloedd Ffordd Caerdydd a Stryd Potts yn ystod oriau mân y bore ddydd Sul 11 Awst.

Mae dyn 56 oed a dyn 33 oed, y ddau o ardal Pwllheli, wedi eu harestio, ac wedyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, hyd nes bydd ymchwiliadau pellach.

Dywedodd yr Arolygydd Iwan Jones: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned am riportio’r digwyddiadau yma, ac am sefyll gyda’n gilydd er mwyn gwneud Pwllheli yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.