Newyddion S4C

Cyhuddo dau yn eu harddegau wedi ymchwiliad i derfysgaeth asgell dde eithafol

16/08/2024
S4C

Mae dau berson yn eu harddegau wedi cael eu cyhuddo am weithgaredd derfysgol asgell dde eithafol honedig wedi ymchwiliad gan Heddlu'r Met. 

Fe wnaeth yr heddlu arestio'r ddau yn Cheshunt, Sir Hertford, gan ychwanegu nad oes cyswllt rhwng y cyhuddiadau a'r terfysg ar draws y wlad yn dilyn y llofruddiaethau yn Southport. 

Mae Rex Clark, 18, o Ilford yn nwyrain Llundain, wedi cael ei gyhuddo o baratoi gweithredoedd terfysgol. 

Mae Sofija Vinogradova, 19, o Cheshunt, wedi cael ei chyhuddo o baratoi gweithredoedd terfysgol a dau gyhuddiad o gasglu gwybodaeth sy'n debygol o fod yn ddefnyddiol i berson sy'n paratoi gweithred derfysgol. 

Dywedodd Pennaeth Adran Gwrth Derfysgaeth Heddlu'r Met, Dominic Murphy: "Mae'r rhain yn gyhuddiadau hynod o ddifrifol ond fe fyddwn i'n annog y cyhoedd i beidio â dyfalu ymhellach am yr achos ar hyn o bryd a chaniatáu'r broses cyfiawnder troseddol i gael ei chynnal heb amharu.

"Er nad ydym ni'n gallu gwneud sylw pellach am yr ymchwiliad yn sgil y cyhuddiadau, hoffwn ddarbwyllo'r cyhoedd ar hyn o bryd nad ydym ni'n credu fod yna fygythiad ehangach yn ymwneud â'r ymchwiliad, er ei fod yn parhau."

Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael eu cyhuddo, a byddant yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Gwener.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.