'Teimlad braf iawn': Dyn ifanc yn darganfod eitem 'anghyffredin' yn Sir y Fflint
Mae dyn ifanc o Sir y Fflint wedi dod o hyd i eitem "anghyffredin" a allai ddatgelu miloedd o flynyddoedd o hanes ar safle treftadaeth.
Yn ystod gwaith archeolegol, fe wnaeth Edward Whitby, 17 oed o Fagillt, ddod o hyd i addurn ffrwyn ceffyl (horse bridle mount) o gyfnod yr Oes Haearn hwyr ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.
Roedd yr addurn, a all fod hyd at 2,000 o flynyddoedd oed, yn gorwedd o fewn gweddillion trigfan (settlement) sydd newydd gael ei chanfod.
Yn ôl Heneb, Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymru, mae’n debyg fod y safle wedi cael ei ddefnyddio gan lwyth y Deceangli yng nghyfnod yr Oes Haearn ond roedd pobl dal yn byw yno tan y cyfnod Rhufeinig cynnar.
Dywedodd Edward ei fod yn deimlad "braf iawn" i ddarganfod yr addurn.
"Roeddwn yn clirio pridd pan welais fflach o liw gwyrdd yn y mwd," meddai.
“Mi nes i alw Sophie Cooledge (archeolegydd prosiect gyda Heneb) draw gan feddwl fy mod wedi darganfod modrwy, gan yna sylweddoli ein bod wedi darganfod addurn ffrwyn ceffyl o gyfnod yr Oes Haearn.
“Roedd yn deimlad braf iawn ei ddarganfod ac roeddwn yn gyffrous dros ben cael hyd i rywbeth mor anghyffredin.
“Mae’n anodd coelio fod yr eitem hon yn 2,000 o flynyddoedd oed.”
Roedd Edward yn rhan o dîm o 40 o bobl yn cloddio ar safle Dinas Basing fel rhan o brosiect ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas a Chyngor Sir y Fflint. Cafodd y prosiect ei noddi gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
'Law yn llaw'
Dywedodd uwch archeolegydd y prosiect, Chris Matthews, bod y darganfyddiad yn "gam pwysig" tuag at lenwi bylchau hanesyddol.
“Mae darganfod y fath eitemau yn gam pwysig tuag at lenwi bylchau niferus yn ein gwybodaeth," meddai.
"Lle nad oes tystiolaeth, rydym yn gorfod dehongli orau y medrwn, ond bydd hyn o gymorth i adeiladu darlun cliriach o rai o’r cyfnodau y gwyddom leiaf amdanynt yn ein gorffennol.
“Un agwedd arbennig o ddiddorol yw ein bod yn dechrau gweld fod rhai o’r brodorion lleol wedi byw ar delerau da â’r Rhufeiniaid pan ddaethant i’r wlad.
“Yn hytrach na goresgyn yr ardal a newid pob dim, mae'n ymddangos fod y Rhufeiniad wedi gweld cyfle i weithio law yn llaw â’r Deceangli ac mewn byr amser wedi sefydlu diwydiant plwm ac arian a oedd yn hyrwyddo lledaeniad yr Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain."
Yn ogystal â’r addurn, cafwyd hyd i sawl darn o grochenwaith, olion aelwyd a rhesi o dyllau polion yn perthyn i wahanol gyfnodau’r drigfan.
"Mae hyn yn awgrymu fod y bobl oedd yn byw yma yn gyfoethog ac yn masnachu’n uniongyrchol gyda milwyr y lleng Rhufeinig," meddai Mr Matthews.
“Gallwn ddyddio’r lle yma hefyd i gyfnod pan nad oedd dinas Caer ond megis dechrau cael ei hadeiladu – awgrym arall fod perthynas gydweithredol rhwng y Rhufeiniaid â llwyth y Deceangli o Ogledd Cymru."
Daw'r darganfyddiad yn dilyn prosiect cloddio tebyg y llynedd.
Bryd hynny, cafwyd hyd i fwcl strap Llychlynnaidd o’r 10fed ganrif ymhlith pridd a ddefnyddiwyd i lenwi hen ffos.