Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Caernarfon yn dychwelyd i'r Ofal am eu gêm gyntaf yn y gynghrair eleni

Sgorio 17/08/2024
Caernarfon Town vs Crusaders

Fe fydd Caernarfon yn dychwelyd i'r Ofal am eu gêm gartref gyntaf yno yn y Cymru Premier JD'r tymor hwn.

Caernarfon v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)

Bydd ymgyrch Caernarfon yn dechrau gyda gêm gartref ar yr Oval yn erbyn Hwlffordd, fydd yn llawn hyder ar ôl synnu Cei Connah y penwythnos diwethaf gyda buddugoliaeth o 1-0 ar Gae-y-Castell.

Sgoriodd Ben Ahmun o’r smotyn yn ei gêm gynghrair gyntaf i’r Adar Gleision i sicrhau’r triphwynt a bydd Hwlffordd yn bendant yn anelu am y Chwech Uchaf eleni.

Mae Caernarfon wedi mwynhau haf i’w gofio ar ôl cystadlu’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes a churo Crusaders o Ogledd Iwerddon cyn colli yn erbyn cewri Gwlad Pwyl, Legia Warsaw.

Yn y gorffennol mae nifer o glybiau wedi dechrau’r tymor domestig yn araf ar ôl cystadlu’n Ewrop, a bydd y Cofis yn awyddus i beidio a syrthio mewn i’r arferiad hwnnw.

Hwlffordd gafodd y gorau o bethau yn y gemau rhwng y timau yma’r tymor diwethaf, yn ennill 1-0 ar yr Oval ym mis Rhagfyr yn dilyn gêm gyfartal 1-1 ar Ddôl y Bont ym mis Awst.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.