Newyddion S4C

Brwydr canser mam yn ysbrydoli myfyrwraig i astudio Biocemeg

ITV Cymru 15/08/2024
stori itv

Mae myfyrwraig o'r Rhondda wedi sicrhau lle i astudio Biocemeg yn y brifysgol ar ôl cael ei hysbrydoli gan frwydr ei mam gyda melanoma.

Fe wnaeth Grace Bennett, sy’n 18 mlwydd oed, sicrhau lle ar gwrs cystadleuol ym Mhrifysgol Rhydychen ar ôl derbyn tair A* yn ei harholiadau Lefel A mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg.

Roedd Grace, o Lynrhedynog, wedi bod yn dysgu am anhwylderau ag afiechydon genetig mewn clwb gwyddoniaeth pan gafodd ei mam ddiagnosis o felanoma cam tri.

Dywedodd y fyfyrwraig o Goleg y Cymoedd ei bod hi’n “amser brawychus iawn” i’w theulu, a’i bod wedi bod eisiau dysgu cymaint am y salwch â phosib er mwyn iddi allu helpu ei mam, a deall sut roedd y meddygon yn gweithio i helpu i drin ac atal y canser.

Mae melanoma yn fath o ganser y croen all ledaenu i rannau eraill y corff.

Fe wnaeth ei mam gael gwybod ei bod yn glir o'r canser yn 2022.

'Gwneud mam yn falch'

Dywedodd Grace ei bod yn gobeithio dysgu am glefydau genetig yn Rhydychen a gobeithio y bydd yn rhan o ddod o hyd i iachâd canser rhyw ddydd.

Bydd hi nawr yn mynd ymlaen i astudio gradd meistr integredig biocemeg pedair blynedd o fis Medi.

Dywedodd Grace: “Y mwyaf wnes i ddysgu amdano, y mwyaf o ddiddordeb oedd gen i mewn cymhlethdodau DNA a geneteg.

“Mae’n hynod ddiddorol sut all newid mor fach i DNA rhywun gael effaith mor enfawr ar fywyd, felly dwi mor gyffrous i fynd i Rydychen a dysgu gan rai o fiocemegwyr enwocaf y byd.

“Dwi’n teimlo mor freintiedig i fod wedi sicrhau lle mewn prifysgol mor fawreddog a dwi’n gobeithio gwneud y coleg a’m mam yn falch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.