Newyddion S4C

Ansicrwydd gwaith dur yn gysgod dros ddyfodol myfyrwyr Port Talbot

15/08/2024

Ansicrwydd gwaith dur yn gysgod dros ddyfodol myfyrwyr Port Talbot

Ar draeth Aberafan, mae Meagan a Maddie yn trafod eu disgwyliadau wrth i'r ddwy obeithio am le ym Mhrifysgol Caerfaddon a Chaerdydd ar ôl cael canlyniadau eu harholiadau Lefel A yfory.

"Mae wedi bod yn chwarae yn fy meddwl.

"Mae'n anodd gwybod pa mor dda ti 'di neud yn sefyllfa mor straenus."

"Dw i mor falch bod e drosodd a'r anticipation 'di bod yn wael.

Er bod y ddwy yn edrych ymlaen at bennod newydd tu hwnt i'w cynefin maen nhw hefyd yn adlewyrchu ar flwyddyn heriol nid yn unig o ran eu hastudiaethau ond o ran effaith y newyddion y bydd miloedd o swyddi yn diflannu pan fydd Tata Steel yn cau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot.

Mae wedi bod yn ergyd i nifer o deuluoedd gan gynnwys rhai o gyfoedion Meagan yng Ngholeg Castell-nedd.

"Mae ffrind yn cael rhieni yn y Steelworks.

"Dw i'n gwybod bod cymaint o ansicrwydd yn amser yr arholiadau oherwydd doedd neb yn cael atebion o beth oedd yn digwydd.

"Roedd hi'n stressed a phawb yn stressed yn ystod amser stressful."

Er bod Maddie a Meagan am ddilyn trywydd academaidd maen nhw'n adnabod rhai sy'n chwilio am brentisiaethau a nifer wedi edrych tua'r gwaith dur am gyfleoedd.

"Roedd brawd yn edrych ar apprenticeships a Tata Steel oedd un o'r opsiynau ond mae ddim yn opsiwn rhagor.

"Dw i'n gwybod bod y ffaith bod e'n cau 'di newid dyfodol cymaint."

Yn ôl Tata, maen nhw wedi rhoi saib ar recriwtio prentisiaid newydd yn Ne Cymru eleni wrth i'r cwmni ailstrwythuro.

Mae'r ddwy yng Nghyngor Ieuenctid Sir Castell-nedd Port Talbot felly'n fwy ymwybodol o effeithiau newidiadau i'r gwaith dur ar bobl.

"Mae aelodau o'r Cyngor Ieuenctid gyda teulu sy'n gweithio yna sy'n byw yma a fydd yn cael eu heffeithio.

"Maen nhw'n gwneud lot o waith gyda banciau bwyd."

Dros y misoedd diwethaf mae'r gymuned leol wedi dangos eu cefnogaeth i'r gweithwyr dur wrth iddynt wynebu ansicrwydd am eu dyfodol.

Mae pawb wedi chwarae eu rhan gan gynnwys y bobl ifanc.

"Fel Cyngor Ieuenctid, wnaethon ni daith gerdded noddedig i godi arian i'r teuluoedd sy'n dioddef a chodon ni dros £800 iddyn nhw."

Mae ansicrwydd yn cysgodi dyfodol tref Port Talbot ar hyn o bryd ond i rai o bobl ifanc 18 oed yr ardal hon a thu hwnt gall yfory nodi pennod newydd a chyffrous iddyn nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.