Ffermwyr Sir Benfro yn galw am wella rheolau TB
Ffermwyr Sir Benfro yn galw am wella rheolau TB
Byw mewn gobaith am ganlyniad clir mae'r ffarmwr yma o Eglwyswrw wedi prawf diciau ar y lloi bach yma ddoe.
"Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, ni wedi bod mewn a mas o TB tua tair gwaith neu bedair gwaith erbyn hyn.
"Yn Sir Benfro, yn gyfan gwbl dyw e ddim yn gwella, yn anffodus.
"Mae'r ffigyrau sydd mas heddiw nawr yn gweud hynny."
Yn y deng mlynedd ddiwethaf mae dros 30,000 o wartheg wedi'u difa yn Sir Benfro oherwydd y diciau.
A dros y 12 mis diwethaf, yn ol ffigyrau diweddaraf Defra mae bron i 40% o'r gwartheg sy wedi cael eu difa yng Nghymru oherwydd y diciau, yn dod o Sir Benfro.
A nifer yn Sioe Sir Benfro wedi profi effaith llaw cynta'r clefyd.
Yn ôl y trefnwyr, mae 13 yn llai o wartheg wedi cofrestru yma eleni ond ai'r diciau sydd ar fai?
"Mae pawb rhy ofn i testo rhag ofn bod rhywbeth yn digwydd i'r stoc yn enwedig y stoc showan."
"Fi'n gwybod am rai ffermwyr sy 'di bod lawr a TB ers deng mlynedd a maen nhw'n colli pump i chwech bob tro sy'n dorcalonnus."
"Ni 'di cael trwbl dros y blynyddoedd, mewn a mas.
"Sa i'n credu bod ni 'di symud ymlaen dim dros y blynyddoedd."
Nod Llywodraeth Cymru yw gweld Cymru heb TB erbyn 2041 gyda Bwrdd TB Gwartheg newydd wedi'i sefydlu ddechrau'r wythnos i gyfrannu at y gwaith hwn.
"Be sy gyda ni yw Agricultural Minister sy wirioneddol yn ymateb i'r hyn sy gan bobl i ddweud."
O'dd Lesley Griffiths ddim?
"Mi oedd hi'n neud e hefyd ond oedd hi'n ddiddorol i weld heddiw bod nhw 'di dod a phwnc am TB aton ni a ni wedi newid y polisi o ganlyniad i'r drafodaeth ges i yn fan hyn y flwyddyn ddiwethaf."
Ond mae dal ffordd bell i fynd medd rhai yn enwedig yn y sir hon.
"Rhaid cael strategaeth gyflawn er mwyn i ni ddileu y disease yma.
"Yn anffodus, mae bywyd gwyllt mewn rhai ardaloedd o Gymru... mae fe ynddo y reservoir, felly nes bod ni'n taclo hwnna gyda popeth arall bydd TB yn cario 'mlaen mynd yn waeth mewn rhai ardaloedd o Gymru."
Nôl yn Eglwyswrw, mae'r fferm hon wedi'i lleoli mewn Ardal Triniaeth Ddwys gan Lywodraeth Cymru i brofi dulliau gwahanol o fynd i'r afael â'r clefyd yn Sir Benfro.
"Ni 'di cael mwy a mwy o reolau yn erbyn testo gwartheg a mae'r ffigyrau 'ma yn gwaethygu ac mae hynny'n dweud rhywbeth."
Parhau mae'r her barhaus felly o daclo'r diciau a'r Llywodraeth, fel y lloi bach, a digonedd i gnoi cil arno.