Rhybudd i fodurwyr yn Sir Benfro am dwyll côd QR mewn meysydd parcio
Mae modurwyr yn Sir Benfro yn cael eu hannog i osgoi sganio codau QR i dalu am barcio yn dilyn cyfres o sgamiau.
Mae asiantaeth foduro'r RAC yn cynghori modurwyr i wneud taliadau gydag arian parod, cardiau neu apiau swyddogol yn unig.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu achosion o dwyllwyr yn gosod sticeri gyda chodau QR ar arwyddion parcio mewn lleoliadau yn Sir Benfro ac ar draws Lloegr.
Mae’r rhain yn dangos gwefannau twyllodrus i yrwyr sy'n sganio'r codau gyda'u ffôn ac yn gofyn iddyn nhw nodi manylion eu cerdyn, sy’n galluogi’r troseddwyr i’w defnyddio i wario arian o'u cyfrifon.
Mae côd QR, sy'n dalfyriad o god ymateb cyflym, yn gôd bar sy'n galluogi pobl i gael mynediad cyflym i wefan neu lawrlwytho dolen trwy ei sganio â chamera eu ffôn.
Dywedodd pennaeth polisi’r RAC, Simon Williams: “Maes parcio yw un o’r mannau olaf y byddech chi’n disgwyl cael eich dal allan gan dwyll ar-lein.
“Yn anffodus, mae’n ymddangos bod poblogrwydd cynyddol a rhwyddineb defnyddio codau QR wedi gwneud gyrwyr yn fwy agored i sgamwyr maleisus.
"I rai, yn anffodus mae hyn yn golygu y gallai côd ymateb cyflym mewn gwirionedd fod yn llwybr cyflym i golli arian.
“Gall hefyd arwain at yrwyr i gael eu dal allan ddwywaith os nad ydyn nhw’n sylweddoli eu bod heb dalu am barcio ac yn y pen draw yn cael dirwy gan y cyngor.
“Y ffordd fwyaf diogel o weithredu wrth dalu am barcio mewn maes parcio sy’n eiddo i’r cyngor yw osgoi defnyddio codau QR yn gyfan gwbl.
“Nid yw’r rhan fwyaf o’r cynghorau hyn hyd yn oed yn gweithredu system talu côd QR, felly os oes gennych unrhyw amheuaeth, cadwch yn glir a dim ond talu gydag arian parod, cerdyn neu ap swyddogol sydd wedi’i lawrlwytho o siop apiau eich ffôn clyfar.”