Newyddion S4C

'Rhybudd i eraill': Carcharu dyn o Sir y Fflint am ysgogi casineb hiliol

15/08/2024
david kingsley.png

Mae dyn o Sir y Fflint a wnaeth ysgogi casineb hiliol mewn negeseuon Facebook wedi cael ei garcharu am 21 mis. 

Roedd Daniel Kingsley, 33, o Shotton, wedi cyhoeddi negeseuon hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng 7 Awst a 11 Awst. Roedd wedi mynegi cefnogaeth i'r terfysg yn nhrefi Lloegr.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau ei fod yn gobeithio fod carcharu Kingsley yn "rhybudd" i eraill. 

Ychwanegodd y Barnwr fod llofruddiaethau tair merch ifanc yn Southport wedi "dychryn" pobl ar draws y byd, ond o fewn oriau, fe wnaeth eraill geisio manteisio ar y drychineb a lledaenu celwydd er mwyn gwahanu cymunedau. 

Yn ôl y barnwr, roedd Kingsley yn un o'r bobl a oedd eisiau gweld y golygfeydd treisgar yn digwydd yng Nghymru hefyd. 

O'i gartref ar Awst 8 a 10, fe bostiodd Kingsley negeseuon "hynod sarhaus a hiliol", gan gefnogi'r anhrefn a thargedu eiddo lleiafrifoedd ethnig yn Queensferry a Glannau Dyfrdwy. 

"Eich bwriad chi oedd i achosi trais difrifol," meddai'r barnwr. 

"Rydych chi'n ddyn sy'n barod i fygwth a dychryn eraill. Mae dedfryd o garchar ar unwaith yn eithaf anochel."

Dywedodd yr erlnydd David Mainstone fod Kingsley wedi dweud yn un o'r negeseuon: "Os nad ydych chi'n credu fod yr anhrefn yma yn gywir, ni ddylech chi fod yn ddinesydd Prydeinig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.