'Dwi eisiau i bobl fy nhrin i’n normal': Anhawster dynion i siarad am symptomau canser
Yn 2023, fe wnaeth Marcus Grodentz, sy’n 73 oed o Fagwyr yn Ne Cymru, dderbyn diagnosis o ganser y prostad nad oes modd gwella ohono.
Dywedodd wrth ITV mewn cyfweliad: “Cyn fy nhriniaeth, ro’n i’n cael anhawster yn rheoli pryd fyddai angen y toiled arnaf. Fe wnaeth hyn arwain at ambell ddamwain gywilyddus yn gyhoeddus.
"Mae dynion yn arbennig yn eithaf preifat a dy’n nhw ddim eisiau rhannu, a dydy pobl ddim yn gallu eu helpu, ond unwaith maen nhw'n gwybod am eich canser, maen nhw'n eich trin chi'n wahanol.
"Dwi eisiau i bobl fy nhrin i'n normal.”
Mae arolwg newydd gan yr elusen gymorth canser arbenigol Maggie’s yn awgrymu y gall dynion deimlo euogrwydd ac embaras yn dilyn diagnosis o ganser.
O’r 500 o ddynion ȃ chanser gafodd eu holi, fe wnaeth yr arolwg ddarganfod bod 17% ohonyn nhw’n teimlo embaras am eu diagnosis i ddechrau tra bod 41% yn bryderus.
Dywedodd 12% eu bod nhw’n teimlo'n euog ar ôl eu diagnosis a dywedodd 23% eu bod yn teimlo'n unig.
'Drysu'
Fe wnaeth Marcus brofi amrywiaeth o symptomau yn dilyn ei ddiagnosis.
“Ers cael canser, mae sgìl effeithiau'r feddyginiaeth dwi'n ei chymryd yn golygu bod gen i 'fenopos gwrywaidd’.
"Dwi wastad wedi blino; dwi’n cael fflysiau poeth; dwi’n aml yn beichio crïo'n sydyn a does gen i ddim rheolaeth drosto. Bydd fy ngwraig yn gofyn i mi beth sy'n bod a dwi’n dweud, 'does gen i ddim syniad.'
"Mae yna rhai dyddiau pan dwi'n teimlo'n isel iawn ac yn unig. Dwi dal wedi drysu cymaint am bopeth.
"Ces i a fy ngwraig fywyd rhyw iach hyd yn oed yn ein 70au. Dy’n ni ddim bellach. Mae fy holl fywyd wedi cael ei droi wyneb i waered, ond dyma'r effaith fwyaf.
"Dwi’n teimlo'n euog am hynny.
“Mae fel petai rhan enfawr o fy mherthynas wedi cael ei ddileu. Does dim awydd.”
Siarad yn agored
Fe wnaeth Marcus ddod o hyd i gymorth yn y grŵp dynion yn Maggie’s yng Nghaerdydd, yng nghanolfan cymorth canser Ysbyty Felindre.
Dywedodd fod siarad yn agored am sgìl effeithiau mwy sensitif triniaethau canser wedi ei helpu i deimlo'n llai unig.
Ychwanegodd: “Fe wnes i ddweud wrth un o’r dynion eraill yn y grŵp cymorth fy mod i wastad yn meddwl y gallwn wlychu fy hun cyn agor y drws ffrynt i fy nhŷ a dywedodd, ‘wyddoch chi mai syndrom drws ffrynt yw’r enw ar hyn? Mae'n beth go iawn."
“Fyddwn i byth wedi siarad gyda fy ymgynghorydd neu oncolegydd am hynny, ond roedd hi’n teimlo mor ddilys gan fod rhywun arall wedi profi hyn.
“Pan wnes i ddechrau siarad yn y grŵp dynion am fy mhidyn yn diflannu, dyma un ohonyn nhw’n codi i fyny ac ysgwyd fy llaw a dweud, “diolch Marcus, ro’n i’n meddwl mai dim ond fi oedd e.”
“Mae dynion yn enwog o fod yn gyndyn i siarad am faterion hynod bersonol, ond mae mor bwysig ac mae angen i hynny newid.”