Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 33 oed yn Abertawe
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth honedig wedi i ddyn farw o'i anafiadau yn dilyn ymosodiad yn Abertawe fis Gorffennaf.
Mae Joseph Dix, 26, o Frome, Gwlad yr Haf, a Macauley Ruddock, 27, o Gaerfaddon, wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad, a ddigwyddodd ar 17 Gorffennaf.
Bu farw dyn 33 oed o Falkirk yn Yr Alban yn yr ysbyty ddydd Mercher.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: "Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn. Maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
"Rydym ni eisiau siarad gydag unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd gan dystiolaeth CCTV, a ddigwyddodd ger mynediad Travelodge ar Ffordd y Dywysoges am tua 02:00 ar ddydd Mercher, 17 Gorffennaf."
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400237176.