Newyddion S4C

Marwolaeth dyn mewn tân yn Sir Ddinbych 'ddim yn cael ei drin fel un amheus'

15/08/2024
Stryd Fawr, Prestatyn

Nid yw marwolaeth dyn mewn tân yn Sir Ddinbych yn ystod oriau mân fore Llun 'yn cael ei drin fel un amheus' meddai'r heddlu.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Stryd Fawr Prestatyn am 02.35, gan anfon criwiau o Brestatyn, Y Rhyl a Llanelwy i’r lleoliad.
 
Dywedodd Prif Uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Simon Williams: "Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr ni yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i sefydlu achos y tân. 
 
"Fodd bynnag, mae'r ddau ddyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad bellach wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.
 
"Yn dilyn archwiliad post-mortem a rhagor o ymholiadau CCTV, nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus ac nid ydym yn chwilio i siarad gydag unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad. 
 
"Mae'r mater bellach yn nwylo'r Crwner a bydd cwest yn agor maes o law. Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu'r dyn fu farw yn ystod y cyfnod anodd yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.