Canlyniadau Safon Uwch: Gostyngiad arall yn nifer y graddau A*-A
Canlyniadau Safon Uwch: Gostyngiad arall yn nifer y graddau A*-A
Mae'r graddau uchaf ar gyfer canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru wedi gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9% eleni, o gymharu â 34% yn 2023.
Er y gostyngiad, mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn cyfnod pandemig Covid-19, pan roedd canran y graddau A-A* yn 26.5%.
Dywedodd Cymwysterau Cymru bod “myfyrwyr yn perfformio'n dda wrth i'r drefn raddio fynd yn ôl i'r safonau cyn y pandemig”.
"Roedd trefniadau arferol cymwysterau yn ôl yn ystod y flwyddyn academaidd hon yng Nghymru, gydag asesiadau wedi eu dyfarnu yn unol â blynyddoedd cyn y pandemig, yn fras."
Inline Tweet: https://twitter.com/bryntawe/status/1823997578238669029
Roedd Lloegr wedi dychwelyd i'r un drefn ag oedd yn bodoli cyn y pandemig y llynedd.
Mae canlyniadau Safon Uwch Cymru yn dangos bod 97.4% o fyfyrwyr wedi ennill graddau A* - E.
Enillodd 10.1% o ymgeiswyr radd A*, ac enillodd 29.9% raddau A*-A.
Inline Tweet: https://twitter.com/Ysgol_Glantaf/status/1823995598934040733
Roedd cyfanswm y cofrestriadau am arholiadau Safon Uwch yng Nghymru eleni yn 32,235, sef gostyngiad o 2.2% o 2023 (32,960) ond roedd y cofrestriadau'n debyg i 2019 (32,320).
Mathemateg yw'r pwnc Safon Uwch mwyaf poblogaidd o hyd, ac mae cyfradd gyffredinol bechgyn a merched yn llwyddo yn gymharol debyg gyda 96.4% o fechgyn yn ennill graddau A* - E, o gymharu â 98.1% o ferched.
Inline Tweet: https://twitter.com/ysgdyffrynconwy/status/1824003723447709887
Canlyniadau Lefel A, UG a Thystysgrif Her Sgiliau
• Cafodd 32,235 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf yma - ac fe ddyfarnwyd canlyniadau 2024 yn unol â threfniadau cyn y pandemig.
• roedd 10.1% o'r graddau Safon Uwch a gafodd eu cyhoeddi yn radd A*, 29.9% yn A* i A ac roedd 97.4% yn raddau A* i E.
• ar gyfer unigolion 18 oed a gymerodd cymwysterau Safon Uwch CBAC, roedd 9.7% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 29.7% yn raddau A* i A a 97.7% yn raddau A* i E
• cafodd 41,440 o raddau UG eu dyfarnu yr haf yma
• roedd 22.1% o'r graddau UG a gafodd eu cyhoeddi yn radd A a 90.2% yn raddau A i E
• ar gyfer unigolion 17 oed a gymerodd cymwysterau UG CBAC, roedd 22.5% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A a 89.8% yn raddau A i E
Llongyfarchiadau
Dywedodd Cymwysterau Cymru na ddylid gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y canlyniadau blynyddol diweddar o achos y gwahaniaethau yn y dulliau dyfarnu dros y pedair blynedd diwethaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/garth_olwg/status/1823992762586353786
Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:
“Da iawn i bawb sydd wedi cael eu canlyniadau heddiw, llongyfarchiadau. Mae canlyniadau yn garreg filltir sylweddol ym mywydau dysgwyr, a bydd llawer yn edrych ymlaen at eu camau nesaf – boed hynny tuag at waith, prentisiaeth, neu addysg uwch.
"Rwy'n gobeithio y cawsoch y graddau yr oeddech yn gobeithio eu cael. Os na, peidiwch â phoeni. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i chi, gan gynnwys trwy eich ysgol neu goleg yn ogystal â gwybodaeth am bwy all eich helpu ar ein gwefan.”
"Y trefniadau ar gyfer cymwysterau eleni oedd y cam olaf wrth ddychwelyd yn raddol i brosesau cyn y pandemig a ddechreuodd pan ddaeth arholiadau ffurfiol yn ôl yn 2022. Mae’r gwahaniaethau yn y dulliau dyfarnu dros y pedair blynedd diwethaf yn golygu na ddylid gwneud cymariaethau rhwng canlyniadau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn.”
Inline Tweet: https://twitter.com/YsgolGwynllyw/status/1823998091952783422
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle:
"Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i bawb sy'n cael eu canlyniadau ledled Cymru. Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr, yn ogystal â'n hathrawon a'n staff gwych yn ein hysgolion a'n colegau, am eu holl waith caled yn arwain at heddiw.
"Arholiadau eleni yw'r cam olaf wrth i ni ddychwelyd at y trefniadau a oedd ar waith cyn y pandemig. Eleni, am y tro cyntaf ers y pandemig, cynhaliwyd arholiadau ac asesiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol gyda'r un trefniadau â chyn y pandemig.
"Mae'r canlyniadau yn unol â'r hyn roedden ni'n gobeithio ei weld ac maen nhw'n weddol debyg i ganlyniadau cyn y pandemig.