Newyddion S4C

Cyfarfod i drafod rhagor o gamerâu CCTV ym Mhwllheli

15/08/2024
pwllheli
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ym Mhwllheli nos Iau i drafod gosod camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) ychwanegol mewn ardaloedd o'r dref.  
 
Bwriad trefnwyr y digwyddiad yw casglu barn y cyhoedd am osod y camerâu'n barhaol yn ardaloedd Bro Cynnan, Ffordd Caerdydd Isaf a'r cyffiniau.
 
Cyngor Gwynedd, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pwllheli a Heddlu Gogledd Cymru, sydd yn ystyried gosod y camerâu ychwanegol yn y lleoliadau hyn.
 
Byddai gosod y camerâu yma yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 
 
Un o nodau’r Gronfa yw adeiladu "cymdogaethau gwydn, diogel ac iach, sy’n cynnwys gwelliannau wedi’u targedu i’r amgylchedd adeiledig a dulliau arloesol o atal troseddau." 
 
Bwriad y cynllun yma yw gosod camerâu cylch cyfyng ychwanegol, gyda'r nod o wella ymdeimlad pobl o ddiogelwch a lleihau troseddau yn yr ardal.
 
Dywed y trefnwyr y byddai preifatrwydd pobl sy'n byw mewn tai cyfagos i'r camerâu yn cael ei ddiogelu gan fod modd cuddio unrhyw ffenestri tai o olwg y camerâu os byddai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.
 
Bydd y cyfarfod cyhoeddus nos Iau yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan, rhwng 18:00 a 19:30.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.