Newyddion S4C

Perimenopos: Menywod ‘yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder deubegwn’

15/08/2024
Iechyd meddwl

Mae menywod fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder deubegwn (bi-polar) yn y blynyddoedd yn arwain at eu misglwyf olaf,  yn ôl astudiaeth newydd gan brifysgol yng Nghymru.

Dywedodd arbenigwyr y gallai ymchwil o’r natur hwn helpu i ragweld risg unigol o faterion iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn, a allai “fod yn achub bywyd”.

Mae perimenopos yn digwydd pan fydd menyw yn cael symptomau menopos – fel gorbryder, hwyliau newidiol a niwl yr ymennydd – ond mae’n dal i gael misglwyf.

Roedd yr astudiaeth o 128,294 o fenywod y DU gan academyddion o Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Bipolar UK a’r UK Biobank yn canolbwyntio ar y pedair blynedd o amgylch y cyfnod mislif terfynol.

Fe ganfuwyd fod cynnydd o 112% mewn anhwylder deubegwn yn ystod perimenopos, tra bod dyfodiad iselder dwys wedi cynyddu 30%.

Dywedodd yr Athro Arianna Di Florio, o Brifysgol Caerdydd: “Yn ystod perimenopos mae tua 80% o bobl yn datblygu symptomau, ond nid oedd yr effaith ar iechyd meddwl dwys yn hysbys.

“Yn fy nghlinig, gwelwyd fod rhai menywod, a oedd yn byw bywydau o’r blaen heb unrhyw brofiad o broblemau iechyd meddwl difrifol, wedi datblygu salwch meddwl difrifol ar adeg y menopos.

"Rwy’n teimlo dyletswydd tuag at y menywod rwy’n gweithio gyda nhw. Roeddwn i eisiau rhoi’r atebion iddyn nhw a menywod eraill pam y digwyddodd y peth ofnadwy hwn iddyn nhw.”

Cymorth ychwanegol

Ychwanegodd Clare Dolman, llysgennad ar gyfer Bipolar UK ac arweinydd cyfranogiad cleifion a’r cyhoedd ar y prosiect: “Mae’r astudiaeth hon yn hynod bwysig gan ei bod yn dangos am y tro cyntaf mewn sampl fawr iawn bod y cyfnod pontio menopos yn cael effaith fesuradwy ar iechyd meddwl menywod.

“I mi, mae hyn yn cadarnhau’r hyn yr ydym wedi’i weld a’i glywed gan fenywod ag anhwylder deubegynol eu hunain; bod newid hormonaidd yn ffactor pwysig iawn mewn anhwylderau hwyliau ac yn un sy'n haeddu cael ei ymchwilio'n drylwyr.

“Fel menyw ag anhwylder deubegynol fy hun sydd wedi mynd drwy’r menopos, rwy’n edrych ymlaen at weld y gymuned ymchwil yn cydnabod pwysigrwydd y cyllid hwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.