Newyddion S4C

Tad seren ifanc pêl-droed Sbaen a Barcelona wedi ei drywanu yng Nghatalwnia

15/08/2024
yamal

Cafodd tad seren ifanc Sbaen a Barcelona, ​​​​Lamine Yamal, ei drywanu a’i adael mewn cyflwr difrifol yng Nghatalwnia nos Fercher yn ôl adroddiadau lleol. 

Cafodd Mounir Nasraoui ei drywanu sawl gwaith mewn maes parcio yn Mataro yn dilyn ffrae gyda nifer o ddynion tra’r oedd yn cerdded ei gi.

Daeth y dynion yn ôl yn ddiweddarach i ymosod arno yn ôl “ffynonellau swyddogol sy’n gyfarwydd â’r digwyddiad”. 

Y gred yw bod unigolion wedi eu harestio yn dilyn yr ymosodiad.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Rocafonda o Mataro, tua 30 cilomedr i'r gogledd o Barcelona, ​​lle magwyd Yamal a lle mae ei dad a'i nain yn dal i fyw.

Mae Lamine Yamal yn cael ei ystyried fel un o'r chwaraewyr pêl-droed gorau yn y byd, ag yntau ond yn 17 oed.

Cafodd ei enwi'n chwaraewr gorau pencampwriaeth EURO 2024 yr haf hwn, ac yn dilyn buddugoliaeth ei wlad dros Lloegr yn y ffeinal, Yamal oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i ennill y gystadleuaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.