Newyddion S4C

Mpox yn 'argyfwng iechyd byd-eang' medd Sefydliad Iechyd y Byd

15/08/2024
mpox

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod yr achosion o mpox mewn rhannau o Affrica a bellach un yn Ewrop yn “argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol”.

Mae'r afiechyd heintus iawn – gafodd ei alw gynt yn frech y mwncïod - wedi lladd o leiaf 450 o bobl yn ddiweddar yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Mae bellach wedi lledaenu ar draws rhannau o ganolbarth a dwyrain Affrica ac yn Ewrop, ac mae gwyddonwyr yn poeni pa mor gyflym y mae amrywiolyn newydd o'r afiechyd yn lledaenu a'i gyfradd marwolaethau uchel.

Prynhawn ddydd Iau roedd asiantaeth iechyd cyhoeddus Sweden wedu dweud bod achos cyntaf mpox tu allan i Affrica wedi'i gofnodi.

Cafodd y person eu heintio pan oedden nhw yn Affrica, meddai'r asiantaeth.

Yn ôl Olivia Wigzell, pennaeth dros dro asiantaeth iechyd cyhoeddus Sweden, roedd y person heintiedig wedi ceisio derbyn gofal yn ardal Stockholm ac nid oedd y ffaith ei fod yn derbyn triniaeth yn Sweden yn golygu bod risg i’r boblogaeth ehangach.

Dywedodd pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd, Tedros Adhanom Ghebreyesus, fod y potensial i ledaenu ymhellach o fewn Affrica a thu hwnt “yn bryderus iawn”.

“Mae ymateb rhyngwladol cydgysylltiedig yn hanfodol i atal yr achos hwn ac achub bywydau,” meddai.

Cyswllt

Mae mpox yn cael ei drosglwyddo trwy gyswllt agos, fel rhyw, cyswllt croen-i-groen a siarad neu anadlu'n agos at berson arall.

Mae'n achosi symptomau tebyg i ffliw, briwiau croen a gall fod yn angheuol, gyda phedwar o bob 100 o achosion yn arwain at farwolaeth.

Mae dau brif fath o mpox - Clade 1 a Clade 2. Fe achoswyd argyfwng iechyd cyhoeddus mpox blaenorol yn 2022, gan achosion o Clade 2, sydd yn gymharol ysgafn.

Bryd hynny fe gofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 40 achos o’r haint yng Nghymru.

Ond y tro hwn mae Clade 1 yn llawer mwy niweidiol ac mae wedi lladd hyd at 10% o'r rhai sy'n mynd yn sâl mewn achosion blaenorol - sy’n gynnydd.

Ers dechrau'r flwyddyn, cafwyd mwy na 13,700 o achosion o mpox yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, gydag o leiaf 450 o farwolaethau.

Ers hynny mae wedi'i ganfod mewn gwledydd eraill yn Affrica - gan gynnwys Burundi, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Kenya a Rwanda.

Y gobaith yw y bydd datgan mpox fel argyfwng iechyd cyhoeddus yn arwain at gyflymu ymchwil, cyllid, a chyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus rhyngwladol eraill.

Llun: Sefydliad Iechyd y Byd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.