Dyn oedd ar fin colli ei goesau oherwydd ferwca yn galw am well triniaeth
Mae dyn o Fro Morgannwg, a oedd ar fin colli ei goesau oherwydd ferwca, eisiau i’r driniaeth wnaeth ei achub fod ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd Barry Mayled, 74, ond oriau i ffwrdd o golli ei ddwy goes ar ôl dioddef o friwiau poenus ar y croen am bedair blynedd.
Ond cafodd ei goesau eu hachub wedi iddo dalu’n breifat am therapi microdonnau, sy'n gweithio trwy gynhesu meinwe'r croen.
Cafodd Mr Mayled, sydd wedi byw gyda diabetes ers yn 38 oed, wlserau wnaeth waethygu dros amser, er iddo gael triniaeth sawl tro i geisio eu gwella.
Mae’r pensaer a’r dylunydd gerddi o Benarth, wedi diolch i ddyfais o'r enw Swift am achub ei fywyd.
"Dwi'n dal i weithio a dwi ar safleoedd adeiladu a phopeth, a heb fy nghoesau, dyna fyddai diwedd arni," meddai.
"Ar un adeg, ro’n i yn yr ysbyty wedi'm hamgylchynu gan feddygon ac roedd pethau mor ddrwg nes bod y prif lawfeddyg yn ysgwyd ei ben. Doedd dim byd fwy neu lai ar ôl i'w geisio ac roedd hi’n fater o 'pryd' nid 'os' byddai fy nghoesau yn mynd."
Mae colli coesau yn gymhlethdod sy’n gysylltiedig ȃ diabetes mewn rhai achosion, oherwydd bod y clefyd yn gallu achosi llai o lif y gwaed a niwed i’r nerfau yn rhan isaf y coesau. Gall hyn arwain at wlserau a heintiau.
Yn achos Mr Mayled, fe gafodd briw cymharol ddiniwed ei heintio a gan droi'n wlserau.
Fe wnaeth y briw wrthsefyll triniaeth dros bedair blynedd, gan ledaenu i'r ddwy droed yn y pen draw, gyda thwf poenus y tu ôl i’w fysedd traed mawr. Roedd hyn yn golygu ei fod prin yn gallu cerdded.
Fel y gobaith olaf, fe wnaeth podiatrydd edrych ar driniaeth Swift iddo, sy'n defnyddio dosau ynni isel o ficrodonau wedi’u targedu i ysgogi'r system imiwnedd.
Ar ôl triniaethau misol dros flwyddyn, roedd ei draed wedi gwella'n llwyr.
Mae Mr Mayled wedi dweud ei fod yn poeni y bydd llawer o bobl mewn sefyllfa debyg iddo, ac mae'n annog eraill i geisio triniaeth.
'Siaradwch gyda'ch fferyllydd'
Cafodd Swift ei ddatblygu yn 2016 gan y gwyddonwyr Gary Beale ac Eamon McErlean yng Nghaeredin.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Oherwydd nad oes llawer o dystiolaeth ategol, nid ydym yn darparu unrhyw ymyrraeth iachaol ar gyfer dafadennau yn y GIG.
“Rydym ni’n disgwyl i’r GIG yng Nghymru ddarparu gweithdrefnau ymyriadol sydd wedi bod yn destun asesiad technoleg cyn cael eu defnyddio yn y GIG.
“Dylai pobl sydd angen cyngor a thriniaeth ar gyfer dafadennau siarad â’u fferyllydd, a dylai pobl â diabetes sydd mewn perygl o ddatblygu wlserau traed gael gofal gan dîm podiatreg eu bwrdd iechyd.”
Llun: Emblation Ltd