Caniatáu ehangu chwarel leol yn newyddion 'torcalonnus' i drigolion pentref
Mae pobl sy'n byw mewn pentref ger Pontypridd yn dweud eu bod yn poeni am ddiogelwch eu plant oherwydd ffrwydradau o chwarel ger eu cartrefi.
Mae rhai o drigolion Glyncoch yn bwriadu mynd â deiseb i'r Senedd i atal ehangu pellach ar chwarel Craig-yr-Hesg ac maen nhw eisiau i ddeddfau newydd gael eu pasio fel nad yw hyn yn digwydd i gymunedau eraill.
Mae Claire Allen wedi byw yng Nglyncoch drwy gydol ei hoes ac roedd hi yn Ysgol Craig-yr-Hesg un dydd pan gafodd ffrwydrad o'r chwarel ei glywed yn glir.
"Roedd yn frawychus. Mae'n rhaid i ni baratoi'r plant i beidio â bod yn ofnus, ond maen nhw'n mynd i fod yn ofnus," meddai.
"Mae fy mhlentyn yn mynd i'r ysgol 134 metr o'r ffens hon. Bydd hi'n mynd yn ôl ddiwedd mis Awst. Maen nhw'n mynd i ddechrau ffrwydro ym mis Hydref, ac mae fy mhlentyn wedi dweud wrthyf, 'Pryd mae'r ysgol hon yn mynd i ddisgyn arnai?”
Dywedodd Claire fod eraill yn y gymuned yn colli rhan o'u plentyndod wrth i'r mynydd o amgylch y chwarel gael ei gau i ffwrdd.
"Mae'r mynydd hwn yn rhan o'n plentyndod, ac maen nhw wedi gosod ffens o'i gwmpas. Ein mynydd ni ydyw, ac mae'n fy ngwneud i'n ofidus. Mae ein bywydau wedi cael eu gohirio oherwydd hyn," meddai.
Mae Selena Young hefyd wedi byw yng Nglyncoch gydol ei hoes. Mae hi'n dweud os bydd ehangu pellach yn mynd yn ei flaen, fe fydd y chwarel o fewn 158 metr i'w thŷ.
"Allwn i ddim eistedd ac aros i bethau ddigwydd. Mae'n wirion ei fod yn cael digwydd ac roedd angen i mi wybod pam," meddai.
"O ddydd i ddydd ry’n ni’n ymwybodol o'r cerbydau. Gall cymudo i'r gwaith fod yn anodd iawn. Pan fod y chwarel yn ffrwydro ry’ch chi'n ei deimlo, ac mae'n rhaid i ni ddelio â'r llwch o'r peiriannau malu.
"Dydw i ddim wedi dod i delerau ag ef o hyd. Mae'n ddinistriol. Ro’n i arfer cerdded fy nghŵn ar hyd y mynydd hwnnw, a mynd i fyny yno nawr i weld y ffens - mae'n ddigalon, mae'n dorcalonnus i'w weld. Lle ro’n ni arfer bod yn chwarae fel plant, y coed - maen nhw i gyd wedi cael eu tynnu i lawr.
"Dwi’n gallu ei weld o fy ngardd gefn a dwi’n ei weld bob dydd ac mae'n fy ngwylltio'n fawr."
'Torcalonnus'
Mae’r chwarel wedi bod mewn bodolaeth ers 1885, ond yn 2020, fe wnaeth y perchnogion gais i Gyngor Rhondda Cynon Taf, am ganiatâd i ehangu’r chwarel dywodfaen.
Roedd y cais hwnnw yn aflwyddiannus.
Roedd disgwyl i waith yno ddod i ben ym mis Rhagfyr 2022, ond fe wnaeth y cwmni apelio yn erbyn y penderfyniad, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno i’r ehangu.
Maen nhw nawr yn gobeithio cloddio 15.7 miliwn tunnell ychwanegol o graig ar gyfradd o 400,000 tunnell y flwyddyn tan 2047.
Mae gan ddeiseb yn galw am ffin orfodol o 1000 metr ar gyfer yr holl safle newydd a phresennol dros 11,000 o lofnodion, ac mae wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol.
Mae Doug Williams wedi bod yn gynghorydd lleol ers 2008 ac mae’n pryderu am iechyd cenedlaethau’r dyfodol.
"Fydda i ddim o gwmpas yn 2047, pan fydd y chwareli i fod i ddod i ben, ond fe fydd y bobl ifanc," meddai.
"Dwi fy hun wedi cael diagnosis o COPD ac emffysema. Mae yna blant yn yr ysgol ag asthma - pump, chwech, saith oed."
Mae'n credu, oherwydd bod yr ardal yn gyn-ystâd cyngor, nid yw'n cael ei gwerthfawrogi'n iawn.
"Mae'n debyg na fyddai'n digwydd mewn ardaloedd cefnog, fydden nhw ddim yn caniatáu hynny," meddai.
'Cydnabod pryderon'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Fe wnaethon ni wrthod caniatâd cynllunio i ehangu gweithrediad y chwarel yn 2020, ac fe wnaeth Hanson ymarfer ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
“Gwrthodwyd penderfyniad y Cyngor wedyn gan Weinidogion Cymru, a roddodd ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu rhan orllewinol y chwarel.
“Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd gan drigolion ac yn parhau i’w codi – ac rydym wedi cyfarfod â chynrychiolwyr cymunedol i drafod y rhain yn fanylach.
“O ganlyniad i’r penderfyniad gan Weinidogion, fodd bynnag, ein rôl nawr yw monitro’r amodau a osodwyd ar y caniatâd cynllunio. Mae ein rôl yn cynnwys monitro ansawdd aer a gorfodi'r trwyddedau amgylcheddol sy'n dod o dan ein cylch gwaith."
Dywedodd Heidelberg Materials, sy’n berchen ar y chwarel: “Mae ffrwydro, fel pob agwedd ar chwarela, yn cael ei reoleiddio’n fawr, ac mae gan y DU lefelau llym ar waith. Mae gweithredu o fewn y safonau hyn ar draws ein holl chwareli yn golygu nad yw ffrwydradau chwarel yn peri unrhyw risg i bobl nac eiddo.
“Cafodd y ffrwydrad yn chwarel Craig-yr-Hesg ddydd Llun diwethaf (05 Awst) ei ddylunio’n ofalus gan arbenigwyr i leihau dirgryniadau. Roedd hyn i liniaru'r effaith ar y gymuned leol ac roedd lefelau dirgryniadau’r ffrwydrad isel a gofnodwyd wedyn ymhell o fewn y terfynau a ganiateir.
“Gall gorbwysedd aer (AOP) fod yn gyfrifol am y sŵn sy’n gysylltiedig â chwythiadau – ac yn aml, symudiad aer ac nid dirgryniad a deimlir. Mae AOP hefyd yn cael ei reoli'n ofalus, gan gynnwys ar gyfer ffrwydrad dydd Llun diwethaf."
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw "yn gallu rhoi unrhyw sylw ar eu penderfyniad i ganiatáu'r apêl cynllunio ar gyfer ehangu chwarel Craig Yr Hesg, oherwydd o dan gyfraith cynllunio, mae'r penderfyniad yn derfynol. Mae gan awdurdodau cynllunio lleol bwerau i ymchwilio i achosion posib o dorri amodau cynllunio rheolaeth.”