Carcharu dyn am ddifrodi pum car heddlu mewn tref yng Ngwynedd
Mae dyn 41 oed wedi cael ei garcharu am ddifrodi pum car heddlu mewn tref yng Ngwynedd.
Ymddangosodd Stephen McCouid, sy'n wreiddiol o Lerpwl, yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.
Plediodd yn euog i bum cyhuddiad o niwed troseddol.
Nos Lun, fe ddefnyddiodd McCouid garreg i falu ffenestri blaen pum car heddlu y tu allan i orsaf heddlu Caernarfon.
Cafodd ei garcharu am 10 wythnos.
Dywedodd Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd, Ian Roberts: "Nid oes modd deall y weithred ddifeddwl a ddiangen hon o ddifrod yn erbyn cerbydau'r gwasanaethau brys.
"Nid oes modd defnyddio y cerbydau sydd wedi eu difrodi o hyd tra eu bod nhw'n cael eu trwsio.
"Yn ffodus, rydym ni'n parhau i allu ymateb i argyfyngau yn ystod y gwyliau ysgol prysur, ond gallai hyn fod wedi bod yn wahanol iawn."