Un o gerrig amlycaf Côr y Cewri 'yn wreiddiol o'r Alban, nid o Gymru'
Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu fod un o gerrig amlycaf Côr y Cewri, neu Stonehenge, yn wreiddiol o'r Alban, ac nid o Gymru.
Dywedodd arbenigwyr eu bod nhw wedi eu "synnu" wrth i'w gwaith ymchwil ddarganfod fod y Garreg Allor yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain yr Alban, 435 milltir i ffwrdd o'r safle yn Wiltshire.
Y gred am y ganrif ddiwethaf yw bod y garreg, fel nifer o gerrig eraill ar y safle, yn wreiddiol o fynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru.
Y Garreg Allor yw'r brif garreg ar y safle hanesyddol, ac nid oes sicrwydd pryd y cafodd ei gosod ger y cerrig eraill.
Cafodd y cerrig eu gosod fel y maen nhw rhwng 2620 a 2480 BC.
Mae ymchwil gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgolion Curtin ac Adelaide yn Awstralia yn dweud bod tebygrwydd mawr rhwng y garreg a'r Hen Dywodfaen Goch ger y Basn Orcadaidd yn yr Alban.
Ar ôl gwaith i archwilio cyfansoddiad cemegol y garreg, gall y gwyddonwyr ddweud gyda hyder o 95% ei fod yn debygol iawn o fod wedi dod o ogledd-ddwyrain yr Alban.
Sut deithiodd y garreg yno?
Nid yw'r ymchwil newydd y dweud yn union sut y cafodd y garreg ei symud o ogledd yr Alban i'w lleoliad presennol.
Ond mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gobeithio y bydd y canfyddiad newydd yn darganfod union leoliad y garreg a sut gafodd ei symud dros 400 milltir i'r lleoliad yn Lloegr.
Dywedodd yr Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth: "Mae'r garreg hon wedi teithio pellter hir iawn - o leiaf 700km - a dyma'r daith hiraf ar gofnod ar gyfer unrhyw garreg sydd wedi ei chynnwys mewn henebyn yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Er nad pwrpas ei hymchwil oedd canfod sut ddaeth y garreg yno, yn amlwg mae rhwystrau o'i chludo ar y tir, ac fe fyddai'n daith frawychus yn y môr.
"Dwi'n sicr y bydd hyn yn arwain at feddwl am ddatblygiad Stonehenge."
Dywedodd un o awduron eraill y gwaith ymchwil, Richard Bevins o Brifysgol Aberystwyth, bod y canfyddiad yn "wefreiddiol."
“Mae’r canfyddiadau yn wirioneddol ryfeddol – maen nhw’n gwrthdroi’r hyn a feddyliwyd am y ganrif ddiwethaf.
“Mae’n wefreiddiol gwybod bod ein gwaith dadansoddi cemegol wedi datgloi’r dirgelwch mawr hwn o’r diwedd.
“Gallwn ddweud nawr mai Albanaidd ac nid Cymreig yw’r garreg eiconig hon.'
Prif lun: Adam Davy/PA