Dyn o Fôn yn cyfarfod y ddau heddwas a achubodd ei fywyd
Mae dyn o Fôn a gafodd ataliad ar y galon tra'n gyrru adref wedi cyfarfod y ddau heddwas a achubodd ei fywyd.
Roedd Neville Owen o Lanfairpwll yn gyrru drwy dwnel yr A55 yng Nghonwy ar 21 Awst y llynedd pan ddechreuodd ei fan daro'n erbyn waliau'r twnel, wedi iddo lewygu a mynd yn anymwybodol wrth yr olwyn.
O fewn munudau i'r digwyddiad, roedd swyddogion Traffig Cymru, Leon Kynaston a'i gydweithiwr wedi cyrraedd ac yn gwneud CPR, cyn i'r swyddogion trosedd ar y ffyrdd, PC Duncan Logan a PC Huw Capper gyrraedd gyda chyfarpar diffibrilio allanol awtomatig (AED) a achubodd fywyd Mr Owen.
Does gan Mr Owen, 64, ddim cof o'r gwrthdrawiad.
"Does dim geiriau i ddisgrifio'n iawn sut dwi'n teimlo," meddai.
Wrth gofio'i symptomau y diwrnod hwnnw, dywedodd Mr Owen: "Ar y bore hwnnw, roeddwn i'n profi poenau yn fy mrest, gan feddwl mai camdreuliad oedd o, felly cymerais ddau dabled a pharhau gyda fy niwrnod.
"Fe wnes i stopio ym Mae Colwyn ar fy ffordd yn ôl a chwarae gêm o bowls. Hanner ffordd drwy'r gêm, doeddwn i ddim yn teimlo yn dda felly fe wnes i fynd i fy fan er mwyn mynd adref."
'Cofio dim byd'
Wrth iddo agosáu at y twnel, mae Mr Owen yn cofio fod y traffig wedi dechrau arafu.
"Ar ôl hynny, dwi ddim yn cofio dim byd," meddai.
"Fe wnes i ddeffro yn yr ysbyty a gweld fy ngwraig, fy mhlant a fy mrawd yno. Gofynais 'Beth sy'n mynd ymlaen?'"
Ychwanegodd Mr Owen: "Os oes gennych chi unrhyw boen yn eich brest, peidiwch â chymryd yn ganiataol mai camdreuliad ydi o, mae angen gweld meddyg."
Wedi'r digwyddiad, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn 30 cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig (AED) ychwanegol ar gyfer gorsafoedd heddlu a cherbydau, a hynny mewn partneriaeth ag Achub Bywyd Cymru.
O ganlyniad i hyn, bydd pob cerbyd Tîm Trosedd Gwledig yn cario'r cyfarpar yma, gan sicrhau gwell mynediad at ddiffibrilwyr mewn cymunedau gwledig.
'Gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth'
Dywedodd Rheolwr Iechyd a Diogelwch Heddlu Gogledd Cymru Colin Jones: "Gallai'r cyfraniad hael yma gan Achub Bywyd Cymru olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth - fel yn achos Neville.
"Os ydy rhywun yn profi ataliad ar y galon, mae amser yn hollbwysig.
"Mae diffibrilwyr yn achub bywyd ac mae cael mynediad atynt, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae nifer o'r rhain yng ngogledd Cymru, yn hanfodol."