Tata Steel: Cyhoeddi pecyn cymorth o £13.5m i Bort Talbot
Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi manylion pecyn cymorth ariannol cychwynnol o £13.5m i weithwyr a busnesau lleol fydd yn cael eu heffeithio gan gynlluniau i gael gwared ar 2,800 o swyddi yng nhwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Mae cyfanswm y pecyn yn llawn yn werth £100m i'r gymuned yn lleol er mwyn cynnig cymorth i fusnesau sydd yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni dur.
Bydd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn cyhoeddi manylion y gefnogaeth ariannol mewn cyfarfod rhwng Tata Steel a Bwrdd Trawsnewid Port Talbot yn ddiweddarach dydd Iau.
Bydd yr arian ar gael i weithwyr sydd wedi eu heffeithio gan y newidiadau ac i fusnesau lleol sydd yn ddibynnol ar Tata Steel fel eu prif gwsmer.
Dywedodd Llywodraeth y DU bod yr arian i weithwyr er mwyn eu helpu i ganfod swyddi newydd, i gael mynediad at hyfforddiant ac i ennill cymwysterau.
Ychwanegodd Ms Stevens bod dros 50 o fusnesau wedi addo i gefnogi gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi.
'Gweithredu, nid trafod'
Mae Tata Steel eisoes wedi cau un o'r ffwrneisi chwyth ac mae disgwyl i'r ail gau erbyn mis Medi.
Dros y misoedd diwethaf mae undebau wedi ymgyrchu yn erbyn cynlluniau Tata i gau'r gwaith gan gynnal streiciau.
Roedd y llywodraeth Geidwadol wedi cytuno ar becyn gwerth £500m i helpu i gadw’r gwaith ar agor a symud i ddulliau cynhyrchu mwy gwyrdd.
Dywedodd Ms Stevens bod trafodaethau rhwng Llywodraeth Lafur y DU a Tata Steel yn parhau.
"Dan y llywodraeth hon mae'r Bwrdd Trawsnewid wedi symud o drafodaeth i weithredu.
"Mae'r cyhoeddiad hwn o £13.5 miliwn gychwynnol yn dangos byddwn yn gweithredu er mwyn cefnogi gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot."
Ychwanegodd fod y llywodraeth ddim mynd i "aros am argyfwng" cyn gweithredu.
"Mae trafodaethau gyda Tata Steel ar ddyfodol y safle hwn yn parhau ar wahân, ond ni fydd y llywodraeth hon yn aros i argyfwng ddigwydd cyn gweithredu.
"Mae gwneud dur yng nghalon cymunedau Cymru, ond mae hefyd yn gefnogaeth i fusnesau lleol."
'Croesawu'r cyllid'
Dywedodd Prif Weithredwr Tata Steel UK, Rajesh Nair ei fod y croesawu'r cyhoeddiad a fydd yn lleihau'r effaith ar weithwyr sydd yn colli eu swyddi.
"Mae'r Bwrdd Trawsnewid yn chwarae rôl hollbwysig mewn cefnogi'r newid yn ein busnes o greu dur yn defnyddio CO2 isel ac annog adfywiad a buddsoddi i'r ardal, tra'n helpu i liniaru'r effeithiau y gall y newidiadau hynny eu cael ar ein pobl, ein cadwyn gyflenwi a'n cymunedau.
“Mae’r Bwrdd Trawsnewid wedi’i sefydlu i gefnogi gweithwyr Tata Steel a’r rheini mewn cwmnïau cadwyn gyflenwi lleol, felly mae’r cyhoeddiad a’r uchelgais i helpu’r rhanbarth a chymunedau lleol i dyfu yn unol ag anghenion newidiol yr ecosystem ddiwydiannol sy’n datblygu yma yn ne Cymru, yn cael ei groesawu'n fawr."