Plentyn wyth yn dioddef anafiadau difrifol wedi ymosodiad gan gi
Plentyn wyth yn dioddef anafiadau difrifol wedi ymosodiad gan gi
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Penrallt Uchaf, Caernarfon tua un ar ddeg fore ddoe yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad yno.
Heddiw, mi wnaethon nhw gadarnhau bod bachgen wyth oed yn Ysbyty Alder Hey Lerpwl gydag anafiadau all newid ei fywyd.
Mewn cyfweliad efo BBC Cymru, mae teulu Caio wedi bod yn disgrifio sut y dioddefodd o ymosodiad ffyrnig gan gi cryf iawn. Doedd ei Nain, Ruth Jones, ddim eisiau mynd ar gamera ond mi fu'n ail fyw'r profiad brawychus o geisio amddiffyn ei hwyr rhag yr anifail.
"O'n i'n gweld fel o'n i'n mynd i fyny, fod y ci yma efo clust Caio yn ei geg. O'n i'n trio pwsho'r ci a chicio'r ci ond doedd y ci ddim yn symud.
"Aeth a bawd Caio, wedyn, yn ei geg ac yn llusgo Caio ar y llawr. "O'dd o jyst yn... o'dd o fel babi dol ond mae Caio yn chwech stôn. "Duw a help os o'dd 'na blentyn bach yna.
"Wnes i afael ar Caio a lluchio'i fo yn erbyn wal a rhoi fy nghorff i dros fo. O'n i'n gwybod tasa Caio 'di cerdded, bysa'r ci 'di dal o. 'Swn i byth di dal Caio mewn digon o amser.
"Bysa mwy o olwg ar Caio bach 'na be oedd wedyn. Wnes i gyfro corff Caio i gyd a daeth y ci ar fy nghefn i. Pan doth o lawr, ciciais i'r ci ac o'dd dim ots gen i chwaith. Aeth y ci rhwng fy nghoesau.
"O'dd o dal eisiau Caio a dim eisiau fi, ond o'dd o ar fy nghefn i drio dragio fi o 'na i fynd at Caio."
Mae'r heddlu'n deud bod dyn 44 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o fod a chi yn ei feddiant oedd allan o reolaeth yn beryglus. Mae'r digwyddiad wedi achosi pryder i bobl yn lleol.
"Mae pawb yn deud yr un peth. Maen nhw wedi rhyfeddu a brawychu bod y fath peth 'di digwydd yn ein cymuned ni.
"Ni'n clywed yn aml am y pethau 'ma'n digwydd mewn llefydd eraill, a dim yn ystyried bod o'n gallu hitio cymuned ei hun yn sydyn. Mae pawb wedi rhyfeddu bod y fath peth wedi digwydd."
Mi gafodd yr anifail ei ddifa gan yr heddlu. Mae profion yn cael eu cynnal i gadarnhau'n union pa frid oedd y ci.
Yr amheuaeth ydy ei fod o'n frid peryglus sydd wedi ei magu i ymladd. Dydy hynny ddim wedi ei gadarnhau.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â lluniau o'r digwyddiad i gysylltu efo nhw.