Newyddion S4C

Pwerau newydd i'r heddlu dargedu ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn nhrefi Gwynedd

14/08/2024
Heddlu Caernarfon

Mae'r heddlu wedi cael pwerau newydd i atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn tair tref yng Ngwynedd.

Mae'r cyngor sir wedi cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yng Nghaernarfon, Pwllheli, a Chricieth oherwydd pryder am ymddygiad a meddwdod. 

Daeth y gorchmynion i rym ar Awst 7, a bydd arwyddion yn cael eu gosod i rybuddio am y grymoedd newydd. Bydd torri'r gorchmynion yn cael ei ystyried yn drosedd.

Mae'r gorchmynion yn targedu ymddygiad sy'n debygol o beri aflonyddwch, niwsans, neu dychryn, neu bod yn amlwg dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Bydd gan yr heddlu hefyd yr hawl i wneud cais i berson i stopio yfed alcohol.

'Diogel'

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: "Mae cyflwyno'r Gorchmynion yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda'r gymuned a phartneriaid.

"Ni allaf bwysleisio digon bod y dair ardal hon o Wynedd yn ardaloedd diogel a braf i fyw, gweithio ac ymweld â hwy a bod y mwyafrif helaeth o bobl yno erioed wedi bod yn rhan o unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ni fydd y Gorchmynion newydd yn stopio pobl rhag cymdeithasu a chael mynediad at, a mwynhau mannau cyhoeddus.  

"Pwrpas y Gorchmynion yw ei gwneud yn haws i awdurdodau fynd i'r afael â'r lleiafrif bychan o bobl sy'n rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn ardaloedd diogel, agored a bywiog y gall pawb eu mwynhau a theimlo'n ddiogel ynddynt." 

Dywedodd Prif Arolygydd Gwynedd, Steve Pawson "Mae'r timau plismona ar gyfer yr ardaloedd yn croesawu'r penderfyniad i roi'r gorchmynion ym Mhwllheli, Cricieth a Chaernarfon. ⁠Bydd y gorchmynion yn helpu'r timau plismona wrth ymdrin ag unigolion sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yn gyson ac yn cael effaith andwyol ar y gymuned."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.