Newyddion S4C

Gwrthdrawiad Maentwrog: Dynes yn yr ysbyty ag anafiadau sy’n peryglu ei bywyd

14/08/2024
Tan-y-bwlch

Mae dynes yn yr ysbyty ag anafiadau sy’n peryglu ei bywyd wedi gwrthdrawiad ger Maentwrog yng Ngwynedd fore dydd Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru am 10.18 wedi adroddiadau am wrthdrawiad yn ymwneud â dau gerbyd yn ardal Tan-y-bwlch ar yr A487.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Fiat Abarth a cherbyd nwyddau trwm.

Cafodd y ddynes oedd yn gyrru'r Fiat ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Stoke.

Cafodd ci a oedd hefyd yn y car ei drin gan filfeddyg.

Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol ei fod yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

“Dylai unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad ac a allai fod â ffilm dashcam gysylltu â ni cyn gynted â phosibl,” meddai.

Fe wnaeth y ffordd ail-agor toc wedi 6pm.

Mae’n bosib cysylltu â’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000703890.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.