Seiclo: Josh Tarling yn 'un o'r ffefrynnau' i ennill cymal cyntaf Vuelta a España
Mae disgwyl i’r Cymro Josh Tarling gystadlu am fuddugoliaeth yng nghymal cyntaf ras Vuelta a España, sydd yn cychwyn yn Lisbon ddydd Sadwrn.
Wedi’r siom o orffen yn bedwerydd yn y ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd fis diwethaf, mae’r seiclwr o Ffos y Ffin yng Ngheredigion yn dychwelyd i gymryd rhan yn y ras hon, lle bydd beicwyr yn rasio ar hyd 3,265km o hewlydd Portiwgal a Sbaen dros dair wythnos.
Mae proffil y ras yn fynyddig iawn gan ddringo cyfanswm o dros 61,000m.
I'r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Aberaeron, dyma fydd y ras Grand Tour cyntaf iddo ei rasio ynddi – sef y statws sy'n cael ei roi ar dair o rasus mwyaf blaenllaw y gamp; y Tour de France, Giro d’Italia, a'r Vuelta a España.
Bydd Cymro Cymraeg arall, Owain Doull, hefyd yn cymryd rhan yn y ras.
Dyma fydd y pedwerydd Grand Tour i Doull, sy'n 31 oed, i rasio ynddi yn ei yrfa, a hynny dros ei dîm EF Education-EasyPost.
Mae disgwyl i'r gŵr o Gaerdydd gynorthwyo arweinydd y tîm, Richard Carapaz o Ecwador, dros y dair wythnos.
'Cyfle mawr'
Gyda'r cymal cyntaf yn ras yn erbyn y cloc dros 12 cilomedr, mae tîm Tarling yn credu fod y gŵr 20 oed yn "un o’r ffefrynnau" i ennill y cymal agoriadol.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1817241479535808882
A phetai yn llwyddo i ennill y cymal, sydd yn ras yn erbyn y cloc dros 12 cilomedr, byddai hefyd yn sicrhau’r crys coch sydd yn cael ei roi i arweinydd y ras.
Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Ineos Grenadiers, Scott Drawer: “Rydym yn cymryd rhan yn y Vuelta a España gyda thîm cryf, cystadleuol a chytbwys iawn. Rydym eisiau rasio yn frwdfrydig ac achub ar y cyfle i ennill cymalau gyda reidwyr fel Josh Tarling a Jhony Narvaez.
“Dyma gyfle mawr i ni gymryd crys yr arweinydd ar y cymal cyntaf gyda Josh. Fe ddangosodd unwaith eto yn y Gemau Olympaidd ym Mharis pa mor gryf ydyw mewn rasus yn erbyn y cloc.
“Mae’r Vuelta yn un o’r rasus Grand Tour fwyaf anodd ei rhagweld oherwydd llwybr y ras, y gwres a’r amser yn y tymor, felly mae wastad rasio da i’w gael. Mae’r reidwyr yn barod i roi popeth i’r achos.”
Prif Lun: Josh Tarling yn ystod ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd ym Mharis (Wochit/Getty)