Newyddion S4C

Enghreifftiau o ofal 'nad oedd yn cyrraedd y safon' yn ystod y pandemig Covid-19

14/08/2024
Doctoriaid / Nyrsys / Ward / Ysbyty

Roedd enghreifftiau o ‘gofal is-safonol a meysydd i’w gwella’n sylweddol’ o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ystod y pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.

Mae adroddiad gan Weithrediaeth GIG Cymru, sydd yn ymchwilio i ledaeniad Covid-19 o fewn ysbytai, wedi dod i'r casgliad fod yna 18,360 o achosion o Covid wedi deillio o fewn lleoliadau gofal iechyd rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2022.

Mae canfyddiadau’r adroddiad wedi amlygu sawl maes sydd angen eu gwella, gan gynnwys lefelau staffio – roedd lefelau isel o staffio yn y GIG, a ddaeth dan fwy o straen yn ystod y pandemig, yn achosi ‘risgiau uwch i ddiogelwch cleifion a gofal is-optimaidd’. 

Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i flaenoriaethu recriwtio a chadw staff fel rhan o strategaeth y GIG yn y dyfodol.

Maes arall oedd angen ei wella oedd addasrwydd adeiladau gofal iechyd – fe wnaeth diffyg ystafelloedd sengl, diffyg gofod rhwng gwelyau a diffyg gwyntyllu mewn wardiau ei gwneud hi’n anoddach i reoli lledaeniad y feirws. 

Image
menyw yn brechu

Mae’r adroddiad yn amlygu’r angen i wneud gwelliannau i adeiladau’r GIG er mwyn rheoli’r risg o ledaenu heintydd. Mae hefyd yn argymell i fyrddau ac ymddiriedolaeth iechyd i ystyried cynnwys mwy o ystafelloedd sengl wrth ddylunio adeiladau yn y dyfodol, er mwyn lleihau lledaeniad a gwneud profiad cleifion yn fwy ‘gyfforddus’. 

Roedd y system profi am Covid-19 yn ‘aneffeithiol’ yn ystod cyfnodau o 2020 medd yr adroddiad. Roedd hynny oherwydd diffyg nwyddau fel nodwyddau a swobiau i gynnal profion, a diffyg capasiti gan labordai i brosesu cynifer o brofion, wrth i’r galw gynyddu’n sylweddol. 

Roedd yna hefyd ddiffyg gwasanaethau i gefnogi teuluoedd oedd wedi profi profedigaeth mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Fyddai hyn wedi cael wedi cael ‘effaith andwyol’ ar broses profedigaeth rhai teuluoedd. 

Roedd sylwadau gan deuluoedd a gofalwyr wedi amlygu’r ‘effaith andwyol’ ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl cleifion doedd ddim yn cael derbyn ymweliadau na chyswllt gyda theulu. Roedd cyfathrebu ynglŷn â hyn gyda chleifion a’u teuluoedd yn ‘is-safonol’ mewn rhai enghreifftiau.

'Atebion'

Yn ôl Gweithrediaeth GIG, nod yr adolygiad oedd i "rhoi cymaint o atebion â phosibl i gleifion, teuluoedd a gofalwyr, yn ogystal â nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal yn GIG Cymru."

Cafodd £4.5 miliwn ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru dros ddwy flynedd i ariannu'r rhaglen o ymchwilio i'r achosion nocosomaidd o Covid, sef achosion a gafwyd yn yr ysbyty.

Fe wnaeth Bereaved Families for Justice Cymru hefyd gyfrannu i'r broses o sefydlu'r rhaglen.

Dywedodd Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Ar ran GIG Cymru, hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydymdeimlo’n ddiffuant â phawb a gollodd anwyliaid ar ôl cael COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd - ni ellir diystyru’r effaith.

"Bydd datblygu ein dealltwriaeth am Covid-19 nosocomiaidd a phrofiadau pobl yn cael effaith barhaol ar wella ansawdd y gwasanaethau gofal iechyd a ddarparwn yng Nghymru.

“Mae’r dysgu sydd wedi’i nodi – ac sydd eisoes wedi’i roi ar waith mewn rhai meysydd – yn parhau i fod yn flaenoriaeth i holl sefydliadau’r GIG, fel rhan o’n hymrwymiadau parhaus i ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel.”

'Dysgu'

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Drwy gydol y pandemig Covid-19, bu GIG Cymru yn gweithio'n hynod o galed i gadw'r feirws allan o'n hysbytai ac i amddiffyn pobl a oedd yn cael gofal o dan amgylchiadau anodd. 

“Fodd bynnag, er gwaethaf gweithdrefnau llym i reoli heintiau, gan fod y feirws hwn yn gallu trosglwyddo mor rhwydd gwelwyd achosion o'r haint Covid-19 nosocomiaidd a, gwaetha'r modd mewn rhai achosion, fe wnaeth pobl ddioddef niwed neu fe fuont farw.

"Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddysgu cenedlaethol pellach o ran cyfathrebu â theuluoedd a gofalwyr, cadw cofnodion clinigol, staffio ac adnoddau, cynllunio ar gyfer rhyddhau o'r ysbyty, ac effeithiau amgylcheddau ysbyty.

"Yn ogystal â'r dysgu sydd wedi cael ei gasglu drwy brosesau ymchwilio, mae'r adroddiad yn cydnabod meysydd o arfer da a ddaw o bob rhan o GIG Cymru. Mae cydnabod a rhannu arferion da yn hanfodol er mwyn ysgogi gwelliannau o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad. 

"Nodwyd enghreifftiau o arferion da mewn nifer o feysydd, megis y tosturi a ddangoswyd gan staff, y ffordd yr ymatebodd sefydliadau'n gyflym i'r pandemig, y cydweithio a gafwyd, a'r nifer o fentrau diogelwch cleifion a roddwyd ar waith.

“Mae'n eithriadol bwysig ein bod yn dysgu o’r ymchwiliadau, ac rwy'n croesawu'r adroddiad terfynol hwn. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y casgliadau hyn yn arwain at newidiadau a gwelliannau ystyrlon yn ansawdd a diogelwch gofal cleifion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.