'Cariadus a gofalgar': Teyrnged teulu i ferch 15 oed a gafodd ei darganfod yn Afon Hafren
Mae teulu merch ifanc a gafodd ei darganfod ger Y Trallwng wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel person "cariadus a gofalgar".
Roedd Holli Smallman, oedd yn 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Trallwng, wedi mynd ar goll wrth chwarae gyda ffrindiau yn Afon Hafren ddydd Gwener.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi dod o hyd i’w chorff tua 20.00 nos Wener.
Roedd y llu wedi derbyn adroddiadau ychydig cyn 16:40 ddydd Gwener bod person wedi mynd ar goll yn yr afon.
Roedd Gwylwyr y Glannau a'r Gwasanaeth Tân wedi cynorthwyo'r ymdrechion i'w darganfod.
'Torcalon llethol'
Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu: "Rydym yn dymuno mynegi pa mor dorcalonnus yw marwolaeth drasig ein merch gariadus a gofalgar Holli. Mae'r galar a'r torcalon llethol yn ein dinistrio ni i gyd.
"Roedd Holli yn chwaer, yn ferch ac yn wyres annwyl, ac roedd ei theulu, ei theulu estynedig a'i ffrindiau yn ei charu gymaint.
"Roedd Holli’n llawn hwyl ac yn byw bywyd llawn canu a dawnsio, roedd ganddi awch heintus am fywyd ac fe gafodd ei natur gadarnhaol a chariadus effaith ar bawb y gwnaeth hi erioed eu cyfarfod."
Ychwanegodd: "Rydym i gyd wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth a’r caredigrwydd a ddangoswyd i ni fel teulu a diolchwn am y negeseuon gan bawb yn y gymuned. Rydym wedi gweld y negeseuon ac maen nhw'n golygu cymaint i ni.
"Mae ein calonnau wedi torri ac ni fyddem byth eisiau i unrhyw deulu arall fynd trwy'r boen rydyn ni'n mynd drwyddo.
"Rydym wedi darganfod pa mor beryglus yw dŵr mewn ffordd na all neb ei ddychmygu ac rydym yn erfyn ar blant a rhieni i gymryd y gofal mwyaf pan fyddant yn agos at ddŵr agored."
Mae'r teulu wedi diolch i'r gwasanaethau brys a staff y GIG yn Telford am eu gwaith caled.
Maen nhw hefyd wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.