Medal Ddrama: ‘Calon yn gwaedu’ dros y dramodydd wrth galon y dirgelwch
Mae un o gyn-enillwyr y Fedal Ddrama wedi dweud bod ei “galon yn gwaedu” dros y dramodydd sydd wrth galon y dadlau cyhoeddus am un o brif wobrau’r Eisteddfod.
Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol ddatganiad ddydd Mawrth yn cynnig esboniad pellach am pam y cafodd y seremoni a’r gystadleuaeth ei diddymu ddydd Iau.
Yn y datganiad dywedodd y beirniaid eu bod nhw’n credu eu bod nhw wedi dewis enillydd oedd yn “lais cyffrous ac yn safbwynt ffres a newydd i theatr yng Nghymru”.
Ond “wrth i’r broses fynd yn ei blaen, daeth yn amlwg i'r Eisteddfod nad oedd modd i’r gystadleuaeth barhau,” meddai Geinor Styles, Richard Lynch a Mared Swain.
Mae sïon sydd heb eu cadarnhau bod y gystadleuaeth wedi ei hatal oherwydd bod awdur buddugol, a oedd yn wyn, wedi ysgrifennu drama o safbwynt cymeriad o leiafrif ethnig.
Nid yw’r Eisteddfod wedi cadarnhau na gwadu'r awgrym hwnnw.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher, dywedodd Cefin Roberts, a enillodd y wobr yn 2002, ei fod yn cydymdeimlo gydag awdur y ddrama.
“Ma’r awdur allan yno yn teimlo ryw gywilydd a dylai fo neu hi ddim gwneud hynny,” meddai.
“Mae fy nghalon i’n gwaedu dros y dramodydd erbyn hyn mae arna’i ofn.
“Achos dydyn nhw heb gael llais o gwbl.
“Mae’r cystadleuwyr eraill, y gynulleidfa, y beirniaid, y Steddfod, wedi cael amddiffyn eu hunain.
“Mae yna un llais allan yn fan ‘na sydd ddim wedi cael llawer o gefnogaeth hyd yma.
“Dw i’n gobeithio fy mod i’n ymestyn llaw i’r person yna, beth bynnag y maen nhw wedi ei wneud.
“Dydyn nhw ddim wedi tramgwyddo. Wedi ysgrifennu drama maen nhw, ac yn eu naïfrwydd creadigol, maen nhw wedi gwneud camgymeriad bach heb sylweddoli hynny.
“Maen nhw angen eu cydymdeimlad ni heddiw.”
‘Newidiadau positif’
Nos Fawrth, mae datganiad wedi ei gyhoeddi trwy'r Eisteddfod, dywedodd y beirniad nad “sensoriaeth” oedd bwriad eu penderfyniad.
Dywedodd Geinor Styles, Richard Lynch a Mared Swain: “Fe ddaethon ni fel beirniaid i’r broses o ddarllen a dewis y ddrama fuddugol eleni yn hollol ddall.
“Dewiswyd drama roedden ni i gyd yn gytun oedd yn lais cyffrous ac yn safbwynt ffresh a newydd i theatr yng Nghymru.
“Roedden ni’n disgwyl i bob awdur fod wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drwyadl. Mae hyn yn hollbwysig i ddilysrwydd ac uniondeb y dramau.
“Wrth i’r broses fynd yn ei blaen, daeth yn amlwg i'r Eisteddfod nad oedd modd i’r gystadleuaeth barhau.
“Nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli. Penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd hi i atal y gystadleuaeth ar y pwynt yma.
“O fod yn rhan o’r broses feirniadu eleni, rydyn ni’n hyderus bod llawer o dalent ysgrifennu sy’n werth ei ddathlu ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith caled a aeth mewn i bob un drama. Gobeithio y daw cyfle i ni weld rhai o’r dramau ddaeth i law ar ein llwyfannau yn y dyfodol.
“Diolch i’r Eisteddfod am ein gwahodd i feirniadu, ond mae ein gwaith ni o feirniadu’r dramau wedi ei wneud, a phob cystadleuydd wedi derbyn beirniadaeth yn unigol am eu gwaith.
“Ni fyddwn yn gwneud sylwadau pellach yn gyhoeddus ar benderfyniad yr Eisteddfod i atal y gystadleuaeth, gan nad ydym yn rhan o broses penderfynu Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod.
“Byddwn ni’n hapus i fod yn ran o drafodaethau pellach o fewn y sector pan fydd canllawiau newydd yr Eisteddfod yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn, gan ei bod hi'n sgwrs bwysig i'w chael, gan obeithio y daw newidiadau positif i'r gystadleuaeth yn y dyfodol.”
'Gwarchod pawb'
Mae Ashok Ahir, Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, hefyd wedi cyhoeddi sylwadau am y penderfyniad i atal y gystadleuaeth.
“Mae gan yr Eisteddfod gyfrifoldeb i warchod pawb sy’n ymwneud â’n cystadlaethau, gan gynnwys y rheini sydd wedi cystadlu a’r beirniaid. Dyna fu’r nod drwy gydol y broses hon," meddai.
“Mae’n rhaid pwysleisio fod y beirniaid yn cytuno â phenderfyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bod yr Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â hwy drwy gydol y trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf.
“Rydyn ni eisoes wedi dweud y byddwn yn edrych ar y prosesau sy’n ymwneud â’n cystadlaethau cyfansoddi dros y misoedd nesaf, gan sicrhau bod ein holl amodau a rheolau yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn dechrau yng nghyfarfodydd ein panelau canolog ddiwedd Medi.
“Rydyn ni’n cytuno bod angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni, fel rhan o’r gystadleuaeth ei hun, ynghyd â’r sylwadau a’r dyfaliadau diddiwedd sydd wedi’u gwyntyllu drwy’r wasg a’r cyfryngau dros y dyddiau diwethaf. Rydyn ni’n fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda’r sector yn yr hydref.
“Rydyn ni’n ymwybodol fod rhai’n teimlo’n gryf iawn am y mater hwn, ac rydyn yn falch fod pobl yn teimlo perchnogaeth am yr Eisteddfod a’n cystadlaethau. Mae hyn yn elfen hollbwysig o ethos ein prifwyl. Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i bawb, ac rwy’n gobeithio y bydd cyfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref.”