'Diwrnod gorau ein bywydau': Nigel Owens a'i ŵr yn diolch i'r rhai a ddathlodd eu priodas
Mae'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens a'i ŵr wedi diolch am eiriau caredig y cyhoedd ac i'r rhai a ddathlodd eu priodas dros y penwythnos.
Fe wnaeth Barrie Jones-Davies, athro ysgol gynradd, briodi Mr Owens yng Ngwesty'r Cliff ger Aberteifi yng Ngheredigion ddydd Sadwrn.
Mewn datganiad ar dudalen cyfryngau cymdeithasol Barrie Jones-Davies, dywedodd: "Hoffai fy ngŵr a minnau ddiolch yn fawr iawn i bawb a fu’n dathlu gyda ni dros y penwythnos, gan greu’r atgofion mwyaf gwerthfawr.
"Rydym yn teimlo mor ffodus i gael cymaint o bobl anhygoel yn ein bywydau, yn deulu a ffrindiau.
"Diolch hefyd i bawb a anfonodd gardiau, anrhegion a dymuniadau da."
Ychwanegodd: "Yn wir, dyma oedd diwrnod gorau ein bywydau."
Fe wnaeth Mr Owens ymddeol o rygbi rhyngwladol ym mis Rhagfyr 2020 yn dilyn gyrfa 17 mlynedd.
Mae'r pâr priod yn berchen ar fferm yn Sir Gaerfyrddin ac yn y broses o fabwysiadu plentyn.
Llun: Barrie Jones-Davies