Newyddion S4C

Ceffylau’n dianc yn gorfodi canslo rasys Parkrun yng Nghaerdydd

14/08/2024
Parkrun

Bu’n rhaid canslo digwyddiad Parkrun yng Nghaerdydd am ddwy wythnos yn olynol oherwydd bod ceffylau yn dianc o hyd o gae cyfagos.

Nid oedd modd cynnal Parkrun Tremorfa yn ne-ddwyrain y ddinas gydag adroddiadau bod hyd at 12 ceffyl yn y parc ar un cyfnod.

Roedd modd cynnal ras yn y pen draw ar ddydd Sadwrn 10 Awst wedi i’r ceffylau gael eu harwain yn ôl i’w caeau.

Roedd trefnwyr Parkrun mewn trafodaethau gyda cheidwaid y parc a Chyngor Caerdydd, medden nhw.

“Rydym yn gobeithio y gellir dod o hyd i ateb hirdymor fel y gallwn barhau â Parkrun Tremorfa heb unrhyw ymyrraeth bellach (gan geffylau o leiaf!),” medden nhw.

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw’n ymwybodol o’r broblem a’n cymryd camau i sicrhau nad oedd y ceffylau yn tarfu ar ddefnyddwyr y parc.

“Mae’r cyngor yn ymwybodol o’r mater ac wedi cymryd camau rhagweithiol i sicrhau nad yw ceffylau strae yn amharu ar redwyr ym Mharc Tremorfa,” medden nhw.

“Mae’r ceidwaid yn ymweld â’r parc yn ddyddiol, ynghyd â PCSOs Heddlu De Cymru ac ni welwyd unrhyw geffylau yn ddiweddar.

“Bydd y cyngor yn defnyddio eu pwerau i feddiannu unrhyw geffylau sy’n mynd i mewn i’r parc eto ac mae swyddogion wedi siarad â pherchnogion y ceffylau fel eu bod yn deall y bydd camau gorfodi yn cael eu gweithredu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.