Cynnydd sylweddol mewn troseddau yn erbyn menywod ar reilffyrdd Prydain
Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain mae yna gynnydd sylweddol wedi bod mewn troseddau yn erbyn menywod ar drenau Prydain.
Cynyddodd nifer y cwynion am droseddau honedig o 7,561 yn 2021 i 11,357 yn 2023, gyda naid o 10% yn nifer y troseddau rhywiol.
Mae data Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn awgrymu bod y rhan fwyaf o ymosodiadau yn digwydd yn ystod yr oriau brig pan fo trenau'n llawn ac yn brysur.
Ond yn ôl arolwg gan yr un llu dim ond un o bob pump o bobl sydd wedi gweld achosion o aflonyddu rhywiol a roddodd wybod i'r heddlu, medden nhw.
Galwodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Paul Furnell ar y gymuned i fod yn wyliadwrus a chadw llygad ar ran teithwyr eraill wrth ddal y trên.
“Rydw i’n sicr bod y rhan fwyaf ohonom ni wedi dweud wrth ein merched, mamau neu ffrindiau am fod yn ofalus ar eu ffordd adref pan fyddant yn teithio ar eu pennau eu hunain yn hwyr yn y nos,” meddai.
“Ond rydyn ni’n gwybod y gall aflonyddu rhywiol a throseddu ddigwydd ar unrhyw adeg o’r dydd, ac mae ein ffigurau’n dangos ei fod yn fwyaf tebygol o ddigwydd ar yr oriau prysuraf pan fydd cerbydau’n llawn.
“Os ydyn ni’n gweld rhywbeth sydd ddim yn iawn, mae angen gwneud rhywbeth - ymyrryd os ydych chi’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny neu riportio’r peth i’r heddlu.”